Fy Mhensiwn Ar-lein
Mae Cronfa Bensiwn Dyfed wedi gwella ei wasanaeth gweinyddu pensiynau drwy gyflwyno gweborth integredig sef Fy Mhensiwn Ar-lein. Diben y fenter yw darparu gwybodaeth statudol i'r aelodau o'r cynllun ochr yn ochr â lleihau'r costau argraffu a phostio a lleihau ôl troed carbon y Gronfa.
Fel aelod presennol neu aelod gohiriedig, byddwch yn medru cyfrifo eich buddion personol eich hun o’r data a gedwir ar eich cofnod pensiwn, fel y gallwch gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad. Cewch gyfrifo eich buddion fel y mynnwch, ac yn y dyfodol ni fydd rhaid i chi aros am eich datganiad blynyddol cyn gweld beth allwch chi ddisgwyl ei gael wrth ymddeol. Byddwch hefyd yn medru gweld a diweddaru eich manylion personol.
Wrth mewngofnodi i Fy Mhensiwn Ar-lein, fe byddwch medru:
- bwrw golwg ar / newid eich manylion personnol;
- cyfrifo eich buddion;
- bwrw golwg ar eich manylion ariannol;
- cyrchu ffurflenni perthnasol;
- bwrw golwg ar Datganiad Blynyddol o'ch Buddion.
Sut mae gofrestru?
I gofrestru, cliciwch ar y linc canlynol a dilynwch yr arweiniad sydd ar gael ar-sgrîn:
Dalier Sylw
NI fyddwch yn derbyn copi caled o'ch Datganiad Blynyddol fel defnyddiwr o wasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein.