Cynllun Pensiwn Heddlu

Buddion Marwolaeth

Os ydych yn marw yn ystod eich gwasanaeth i’r heddlu, a bwrw eich bod yn aelod o Chynllun 2006 ar adeg eich marwolaeth (a heb adael y Cynllun), bydd cyfandaliad grant marwolaeth 3 gwaith swm eich cyflog pensiynadwy blynyddol ar y pryd, yn cael ei dalu i:

  • eich priod neu bartner sifil, os oes gennych un;
  • os nad oes gennych briod na phartner sifil, ac yn ôl disgresiwn Heddlu Dyfed-Powys, i bartner di-briod (os yw’r holl ddogfennau perthnasol wedi cael eu llenwi);
  • os nad oes gennych briod, partner sifil na phartner di-briod datganedig, ac eto yn ôl disgresiwn Heddlu Dyfed-Powys, i berson a enwebwyd gennych chi;
  • fel arall, i’ch cynrychiolydd personol - fel arfer Ysgutor eich ewyllys, ac felly bydd yn llunio rhan o’ch Ystâd.

Nid yw hyd gwasanaeth yn berthnasol i’r grant hwn.

Os dymunwch enwebu rhywun i dderbyn eich cyfandaliad grant marwolaeth, dylech lenwi ffurflen Mynegi Dymuniad ynghylch Grant Marwolaeth. Nid yw mynegi dymuniad yn gwrth-wneud y ddarpariaeth y bydd y grant yn mynd i briod, partner sifil neu bartner di-briod datganedig sy’n goroesi, os oes gennych un, ond byddai’n dod i rym lle nad oes priod neu bartner pe byddech chi a’ch priod neu bartner yn marw ar yr un pryd.

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, bydd y cyfandaliad 3 gwaith eich cyflog pensiynadwy blynyddol fel gweithiwr rhan-amser.

Enghraifft

Cyflog cyfwerth ag amser llawn Tony yw £30,000 y flwyddyn, ond mae’n gweithio 32 awr yr wythnos, felly ei gyflog pensiynadwy blynyddol yw £24,000 y flwyddyn (32/40 x £30,000).

Pe byddai’n marw mewn swydd ac yntau’n aelod o Chynllun 2006, y cyfandaliad grant marwolaeth fyddai’n daladwy ar ei farwolaeth fyddai £72,000 (3 x £24,000).

  • Buddion Goroeswyr
  • Pensiynau Plant