Cynllun Pensiwn Heddlu

Ysgariad

Os byddwch chi yn cael ysgariad neu os yw eich partneriaeth sifil yn cael ei diddymu, mae dau bwynt pwysig y dylech eu cofio. Ni fydd gan eich cyn-briod neu gyn-bartner sifil hawl i unrhyw bensiwn goroeswr, petaech yn marw o’i flaen ef neu o’i blaen hi, ond bydd pensiynau plant yn parhau yn daladwy i unrhyw blant cymwys petaech yn marw.

Gall cost cydymffurfio ag unrhyw orchymyn Llys sy’n gosod rhwymedigaethau ar Gynllun 2015 gael eu hadfer yn uniongyrchol oddi arnoch.

Dylech nodi hefyd, petai hawliad ariannol mewn camau i gael ysgariad, gwahaniad barnwrol, diddymu priodas, diddymu partneriaeth sifil, mae’n ofynnol i’r Llu Heddlu, os gofynnir iddo, roi datganiad o werth trosglwyddo cyfatebol mewn arian parod eich buddion dan Gynllun 2015 (a dan Gynllun 1987 neu Gynllun 2006 os oes gennych fuddion wedi cronni dan y trefniadau hynny) er mwyn galluogi’r Llys i ystyried yr hawliau pensiwn wrth setlo hawliadau ariannol.

Gall y Llys wrthbwyso gwerth eich buddion mewn cymhariaeth ag asedau eraill, neu, mewn camau ysgaru neu ddiddymu, gall roi gorchymyn rhannu pensiwn. Mewn hawliadau ariannol yn deillio o gamau i ddiddymu, gwahanu barnwrol neu ysgaru, gall y Llys wneud gorchymyn clustnodi yn erbyn eich pensiwn.

Os bydd y Llys yn cyhoeddi Gorchymyn Clustnodi, efallai y bydd yn gofyn, pan fydd eich buddion yn dod yn daladwy bod eich cyn-briod neu gyn-bartner yn derbyn un o’r buddion canlynol neu gyfuniad ohonynt:

  • Y cyfan neu ran o’ch pensiwn.
  • Y cyfan neu ran o’ch cyfandaliad a gymudwyd.
  • Y cyfan neu ran o unrhyw grant marwolaeth a delir os byddwch farw tra’n dal i wasanaethu.

Bydd Gorchymyn Clustnodi yn erbyn taliadau pensiwn (ond dim cyfandaliadau oni bai bod y gorchymyn yn nodi hynny) yn dod i ben yn awtomatig os bydd eich cyn-briod yn ailbriodi neu os bydd eich cyn-bartner yn ffurfio partneriaeth sifil arall, a bydd eich pensiwn llawn yn cael ei adfer i chi. Bydd taliadau pensiwn i’ch cyn-briod neu gyn-bartner sifil yn dod i ben pan fyddwch farw.

Os bydd y Llys yn cyhoeddi Gorchymyn Rhannu pensiwn, bydd canran o’ch hawliau a grynhowyd yn cael eu dyrannu i’ch cyn-briod neu gyn-bartner sifil ar sail y crynhoad hyd at naill ai 28 diwrnod ar ôl dyddiad effeithiol y gorchymyn, neu ddyddiad eich archddyfarniad absoliwt os bydd yn hwyrach.

Bydd eich pensiwn, eich cyfandaliad a’ch buddion i oroeswyr yn cael eu gostwng. Bydd eich cyn-bartner neu gyn-bartner sifil yn dal buddion credyd pensiwn yn y cynllun yn ei hawl ei hun a fydd yn dod yn daladwy pan fydd ef/hi yn cyrraedd OPW. Mae’r gostyngiad i’ch pensiwn yn cael ei alw yn ddebyd pensiwn.