Buddion Marwolaeth

Os byddwch yn marw mewn swydd, mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn sicrhau bod eich Goroeswyr yn derbyn cymorth. Cyn gynted ag y byddwch yn ymuno â'r cynllun byddwch yn cael aswiriant bywyd ychwanegol, ynghyd â budd-daliadau Goroeswyr (os yn berthnasol).

Os byddwch yn marw fel aelod bresennol o CPLlL, mae cyfandaliad grant marwolaeth sy'n werth 3 gwaith eich cyflog pensiynadwy blynyddol, yn daladwy yn ol eich dymuniad, neu i'ch Ystâd / Cynrychiolwyr Personol os nad ydych wedi mynegi dymuniad.

Fe bydd cwblhau ffurflen Mynegi Dymuniad ynghylch y Grant Marwolaeth yn galluogi ichi enwebu un neu rhagor o unigolion neu fudiadau i dderbyn y grant marwolaeth. Gallwch gwneud hyn drwy gyfleuster Fy Mhensiwn Ar-lein.

  • Buddion Goroeswyr
  • Pensiynau Plant

Dalier Sylw

Os oes hefyd gennych budd-dal gohiriedig o gyfnod cynharach o aelodaeth CPLlL, bydd y grant marwolaeth sy'n daladwy fod y mwyaf o naill ai'r grant marwolaeth mewn perthynas â'ch cyfnod gweithredol o aelodaeth, neu’r grant marwolaeth mewn perthynas â'ch budd-dal gohiriedig, pa un bynnag yw'r mwyaf. 

Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed disgresiwn llwyr i bwy y mae'n talu eich grant marwolaeth i. Mewn achos o anghydfod, bydd yr arian yn cael ei dalu i'ch Ystâd neu Gynrychiolwyr Personol.

Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi gadw eich dymuniad ynghylch y grant marwolaeth yn gyfredol, ar bob adeg.