Gadael y Cynllun

Os fyddwch yn gadael eich cyflogaeth fel aelod o Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), neu’n dewis rhoi’r gorau i gyfrannu at y cynllun cyn eich ymddeoliad, mae sawl opsiwn ar gael i chi.

Os oes gennych gyfanswm aelodaeth sy’n llai na 2 flynedd, dim hawliau pensiwn CPLlL blaenorol ac nad ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r CPLlL, gallwch:

  • Derbyn ad-daliad o’ch cyfraniadau, llai unrhyw ddidyniadau treth a chost eich ailosod yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P).
  • Trosglwyddo eich buddion i drefniant newydd, megis cynllun eich Cyflogwr newydd, neu gynllun pensiwn personol.
  • Aros hyd nes i chi ailymuno â’r CPLlL a dewis cyfuno eich buddion.

Os oes gennych gyfanswm aelodaeth o fwy na 2 flynedd neu eich bod wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun, gallwch:

  • Adael eich buddion gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd hyd at yr adeg yr ydych yn cael ymddeol. Cyfeirir at hyn fel Buddion Gohiriedig.
  • Trosglwyddo eich buddion i drefniant newydd, megis cynllun eich Cyflogwr newydd, neu gynllun pensiwn personol.

Am ragor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i chi fel aelod gyda buddion wedi’u gohirio, ewch i’r adran Gohiriedig o'r wefan.

Os ydych yn dymuno optio allan or CPLlL, bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen Datganiad Optio Allan a'i dychwelyd i'ch Cyflogwr.

  • Ad-daliad o Gyfraniadau

Dogfennau Cysylltiedig

Dalier Sylw

Os ydych yn ystyried trosglwyddo'ch buddion CPLlL i drefniant pensiwn preifat, DARLLENWCH Y WYBODAETH HYN GYNTAF.