Ymddeoliad

Pan fyddwch yn ymddeol o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), gallwch edrych ymlaen at dderbyn pensiwn am eich oes, a fydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI).  Cewch hefyd ddewis ildio rhan o'ch pensiwn i gael taliad arian parod di-dreth (yn amodol ar gyfyngiadau Cyllid a Thollau EM).

Mae’r opsiwn gennych i ymddeol a thynnu budd-daliadau ar gyrraedd 55 oed hyd at 75 oed, ond nid oes unrhyw derfyn oedran o gwbl mewn achos o salwch.

Mae eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA) yn gysylltiedig â'ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (OPW), sy'n golygu y bydd unrhyw gynnydd yn eich OPW yn adlewyrchu yn eich OPA. 

  • Ymddeol yn Gynnar
  • Ymddeoliad Hyblyg
  • Ymddeol oherwydd Salwch

Dalier Sylw

Er mwyn bod yn gymwys i gael budd-daliadau o dan Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), mae'n rhaid i chi fod wedi bod yn aelod o'r cynllun am o leiaf 2 flynedd neu wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r cynllun.

Os byddwch yn dewis ymddeol cyn eich OPA, efallai y bydd eich budd-daliadau pensiwn yn cael ei leihau yn actiwaraidd i gymryd i ystyriaeth talu'n gynnar. Fel arall, os yw eich budd-daliadau yn cael eu talu yn hwyrach nag y mae eich OPA, byddant yn cael eu cynyddu'n actiwaraidd i adlewyrchu'r taliad hwyr.

Os ydych yn dymuno ymddeol o 55 oed i 60, bydd gan eich cyflogwr y ddisgresiwn i atal unrhyw ddiogelwch sydd gennych o dan y Rheol 85 Mlynedd, a allai fod yn berthnasol i'ch amgylchiadau. I gael rhagor o wybodaeth am y Rheol 85 Mlynedd, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.

Os ydych buddion yn dod yn daladwy ar sail Diswyddo neu oherwydd Effeithlonrwydd Busnes, NI fydd ostyngiad actiwaraidd.