Cyhoeddiadau
Mae Cronfa Bensiwn Dyfed yn cynhyrchu amrywiaeth o ddeunydd i gynorthwyo eich gweinyddiaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).
Gellir lawrlwytho'r ffurflenni sydd ar gael yn yr adran hon.
-
Arweiniad Cynllun
Lluniwyd Canllaw Byr i'r Cynllun i roi arweiniad, hawdd ei ddefnyddio i'r aelodau, gan fwrw golwg ar brif ddarpariaethau a buddion y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae'n rhaid rhoi'r canllaw hwn i'r aelodau newydd cyn pen 2 fis wedi iddynt ymuno â'r cynllun a phryd y bydd aelodau yn gofyn am gopi.
Canllaw y Cynllun
Dalier Sylw
Cyhoeddir y canllaw hwn yn flynyddol a rhoddir cyflenwad i bob Cyflogwr tua diwedd mis Mawrth / dechrau mis Ebrill.
-
Ffurflenni Aelodau Newydd
Dylid rhoi Pecyn Cychwyn i Aelod Newydd pan fydd yn dechrau cyfrannu i'r Cynllun. Dylai'r pecyn hwn gynnwys y canlynol:
- Datganiad Optio i Fewn i'r Cynllun
- Datganiad o Hawliau Pensiwn Blaenorol; a
- Ffurflen Mynegi Dymuniad ynghylch y Grant Marwolaeth
Dylid hefyd rhoi Canllaw Byr i'r Cynllun i'r aelod cyn pen 2 fis wedi'r dyddiad ymuno.
Dalier Sylw
Mae'n hanfodol bod pob aelod newydd yn llenwi'r Datganiad o Hawliau Pensiwn Blaenorol, ta waeth a ydynt yn dymuno ystyried trosglwyddo unrhyw hawliau pensiwn blaenorol i'r CPLlL.
Lluniwyd y ffurflenni hyn gan roi ystyriaeth i'r wybodaeth sydd ei hangen ar y Gronfa er mwyn gweinyddu cofnodion yr aelodau. Peidiwch â gwneud unrhyw newidiadau i'r dogfennau hyn os gwelwch yn dda.
-
Ffurflenni Cynnal a Chadw
Mae'r adran hon yn cynnwys y ffurflenni sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich rôl o ran gweinyddu'r Cynllun.
Mae tystysgrifau meddygol wedi eu llunio'n benodol er mwyn casglu'r wybodaeth y mae angen eich Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol (YMCA) penodedig ei darparu yn achos aelod sy'n ymddeol ar sail afiechyd.
Dalier Sylw
Lluniwyd y ffurflenni hyn gan roi ystyriaeth i'r wybodaeth sydd ei hangen ar y Gronfa er mwyn gweinyddu cofnodion yr aelodau. Peidiwch â gwneud unrhyw newidiadau i'r dogfennau hyn os gwelwch yn dda.
Os ydych chi'n cyflenwi'ch data trwy'r gwasanaeth i-Connect, nodwch nad oes angen i chi ddarparu ffurflen Hysbysiad Aelod Newydd na ffurflen Newid Amgylchiadau'r Aelod (oni bai eich bod chi'n darparu cyfnod o absenoldeb awdurdodedig).
Ffurflenni Opsiwn 50/50
-
Tystysgrifau Salwch
Mae'r tystysgrifau salwch a gyflwynwyd o 1 Ebrill, 2014 wedi cael eu osod yn y tabl a ddangosir isod.
Dalier Sylw
Eich cyfrifoldeb chi, fel Cyflogwr yn y Cynllun, i gyflenwi y Dystysgrif a'r Canllawiau cywir i'ch Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol (YMCA) penodedig.
Yn anffodus NID yw'r tystysgrifau hyn wedi eu gyfieithu.
Dalier Sylw
Os ydych yn dymuno cyfarfod â ni i drafod unrhyw fater ynghylch gweinyddu'r Cynllun, mae croeso ichi gysylltu â Chronfa Bensiwn Dyfed.