Gohiriedig

Os buoch unwaith yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) a'ch bod wedi penderfynu gadael eich budd-daliadau gyda ni pryd y gadawsoch, bydd gennych yr hyn a elwir yn Fudd-daliadau Gohiriedig. Ystyr budd-dal gohiriedig yw budd-dal pensiwn sy’n cael ei gadw gan y CPLlL nes y bydd yn daladwy neu y bydd yn cael ei drosglwyddo o’r Gronfa.

Mae gwerth eich budd-daliadau gohiriedig yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant nes y byddant yn cael eu talu. Bydd y pensiwn a delir i chi yn dal i gynyddu yn ôl chwyddiant bob blwyddyn: fel y cyfyd costau byw felly eich budd-daliadau.

Mae Cronfa Bensiwn Dyfed Ar-lein wedi datblygu rhagor ar ei wasanaeth drwy gyflwyno cyfleuster Fy Mhensiwn Ar-lein, a fydd yn eich galluogi i gyrchu manylion eich pensiwn ar-lein mewn modd diogel.

Dalier Sylw

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Mae'r CPLlL ond yn berthnasol i staff nad ydynt yn athrawon. Os ydych yn athro neu'n athrawes, cysylltwch â'r cynllun Pensiynau Athrawon (TPS), sy'n gweinyddu eich cynllun.