Buddion Marwolaeth

Os ydych yn marw ac yn aelod gohiriedig o’r CPLlL, rhaid i’ch gwraig weddw neu ŵr gweddw, partner sifil cofrestredig neu bartner sy’n cyd-fyw a enwebwyd / partner cymwys, y berthynas agosaf neu’r sawl sy’n delio â’ch Ystâd hysbysu Gronfa Bensiwn Dyfed yn ddiymdroi.

Mae yna cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy os byddwch yn marw fel aelod gohiriedig o’r Cynllun. Fodd bynnag, bydd graddfa y grant marwolaeth sy’n daladwy yn dibynnu a oeddech wedi gadael y Cynllun cyn neu arôl 1 Ebrill 2008.

Gallwch enwebu unigolyn / unigolion neu sefydliad / sefydliadau i dderbyn eich grant marwolaeth. I wneud hynny, mae angen ichi fynegi dymuniad ynghylch y grant marwolaeth drwy lenwi'r ffurflen briodol. Fel arall, gallwch ddiweddaru'r dymuniad a fynegwyd gennych gan ddefnyddio gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein. Os NAD ydych wedi enwebu rhywun, caiff y grant marwolaeth ei dalu fel arfer i'ch Ystad neu i'ch Cynrychiolwyr Personol.

Wedi gadael ar neu cyn 31 Mawrth 2008?

Os oeddech wedi gadael y Cynllun ar neu cyn 31 Mawrth 2008, byddai’r grant marwolaeth sy'n daladwy mewn perthynas â'ch buddion gohiriedig yn 3 gwaith gwerth eich pensiwn gohiriedig ar ddyddiad eich marwolaeth h.y. gwerth eich lwmp sum awtomatig.

Wedi gadael ar neu arôl 1 Ebrill 2008?

Os oeddech wedi gadael y Cynllun ar neu arôl 1 Ebrill 2008, byddai’r grant marwolaeth sy'n daladwy mewn perthynas â'ch buddion gohiriedig yn 5 gwaith gwerth eich pensiwn gohiriedig ar ddyddiad eich marwolaeth.

  • Buddion Goroeswyr
  • Pensiynau Plant

Dalier sylw

Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed ddisgresiwn llwyr ynglŷn a pwy bydd yn derbyn y cyfandaliad grant marwolaeth. Mewn achos o anghydfod, bydd yr arian yn cael ei dalu i'ch Ystâd neu Cynrychiolwyr Personol.

Cofiwch y bydd angen ichi sicrhau bod eich dymuniad ynghylch y grant marwolaeth yn gyfredol bob amser.