Datrys Anghydfodau Mewnol
Os oes gennych anghytundeb neu gŵyn yn erbyn Cronfa Bensiwn Dyfed neu eich cyn Gyflogwr, mae darpariaeth a elwir y Weithdrefn Fewnol i Ddatrys Anghydfodau (IDRP) ar gael i'w datrys.
Cyn mynd i'r drafferth o wneud cwyn ffurfiol, byddai Cronfa Bensiwn Dyfed yn croesawu'r cyfle i geisio datrys y mater gyda chi yn anffurfiol cyn mynd â'r mater ymhellach.
Os ydych yn dymuno cysylltu â Chronfa Bensiwn Dyfed, cliciwch yma os gwelwch yn dda. Am ragor o wybodaeth ar y IDRP ac ar gyfer y ffurflen gais, cliciwch yma.
Dalier Sylw
Os oes gennych gwyn neu anghydfod ynglŷn â'ch trefniadau pensiwn galwedigaethol neu personol, dylech gysylltu â:
Yr Ombwdsman Pensiynau
Ffôn: 0800 917 4487
Gwefan: www.pensions-ombudsman.org.uk/cymraeg/
Os oes gennych chi geisiadau cyffredinol am wybodaeth neu arweiniad ynglŷn a'ch trefniadau pensiwn, cysylltwch â:
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Ffôn: 0800 011 3797
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk/about-us/our-website/cymraeg