Cynllun pensiwn cyflog terfynol yw CDT 1992 sy’n golygu y bydd eich pensiwn yn gyfran o’r cyflog pensiynadwy cyfartalog terfynol. Bydd y gyfran yn dibynnu’n rhannol ar faint o wasanaeth pensiynadwy sydd gennych yr adeg yr ydych yn gadael y Cynllun.
Am yr 20 mlynedd gyntaf o wasanaeth pensiynadwy byddwch yn derbyn 1/60fed o’r cyflog pensiynadwy cyfartalog ac am bob un o’r blynyddoedd dilynol byddwch yn derbyn 2/60fed o’r cyflog pensiynadwy cyfartalog. Mae pob diwrnod o wasanaeth pensiynadwy yn cyfrif am 1/365 o 1/60fed. Uchafswm nifer y 60’au y gallwch eu cyfrif yw 40 (ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth).
Enghraifft
Os ydych yn ymddeol yn 55 oed gyda 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy a chyflog pensiynadwy cyfartalog o £30,000, caiff eich pensiwn yn cael ei asesu fel a ganlyn:
(20 x 1/60) + (10 x 2/60) x £30,000 = 40/60 x £30,000 = £20,000 pensiwn blynyddol
Neu, os ydych yn ymddeol yn 50 oed âr ôl 27 mlynedd ac ar yr un cyflog, eich pensiwn fyddai:
(20 x 1/60) + (7 x 2/60) x £30,000 = 34/60 x £30,000 = £17,000 pensiwn blynyddol
Pan fyddwch yn ymddeol, bydd gennych yr opsiwn i gyfnewid rhan o'ch pensiwn i ddarparu cyfandaliad (lwmp swm).
-
Gwasanaeth Pensiynadwy
Hwn yw eich gwasanaeth yn aelod o GDT 1992 yr ydych wedi talu cyfraniadau amdano. Os ydych erioed wedi gweithio’n rhan-amser, y pwynt cychwyn ar gyfer asesu eich pensiwn yw defnyddio’r gwasanaeth pensiynadwy y byddech wedi gallu ei gyfrif pe byddech yn llawn amser.
Gall amrywiol gyfnodau eraill gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy e.e. y swm a gredydwyd ar dderbyn gwerth trosglwyddo o drefniant pensiwn arall, absenoldeb di-dâl (yn cynnwys absenoldeb ychwanegol ar gyfer mamolaeth a mabwysiadu) y mae cyfraniadau wedi’u talu amdano, neu wasanaeth a arferai gyfrif at bensiwn ond sydd bellach wedi cael ei ganslo.
Dalier Sylw
Bydd unrhyw wasanaeth ychwanegol a prynwyd yn CDT 1992 drwy wneud cyfraniadau ychwanegol yn cael ei gynnwys wrth asesu eich pensiwn.
-
Enillion Pensiynadwy
Yn y rhan fwyaf o achosion, cyfartaledd eich cyflog pensiynadwy dros 365 diwrnod olaf eich gwasanaeth pensiynadwy bydd yn cael eu ddefnyddio i gyfrifo eich buddion pensiwn.
Fodd bynnag, os yw’r naill neu’r llall o’r ddau gyfnod blaenorol o 365 diwrnod yn rhoi swm uwch, gellid defnyddio’r cyflog pensiynadwy terfynol o un o’r cyfnodau cynharaf hynny yn lle’r flwyddyn olaf. Mae hyn yn diogelu eich pensiwn os yw eich cyflog yn cael ei leihau yn ystod dwy flynedd olaf eich gwasanaeth.
Os ydych wedi gweithio’n rhan-amser unrhyw adeg, y pwynt cychwyn ar gyfer asesu eich pensiwn yw defnyddio’r cyflog pensiynadwy y gallech fod wedi’i gyfrif, pe byddech yn gweithio’n llawn amser.
-
Cyfnewid eich Pensiwn
Os byddai’n well gennych gael cyfandaliad, yn ogystal â phensiwn pan ydych yn ymddeol, gallwch drefnu hynny drwy Cymudo. Mae hynny’n gofyn am roi rhybudd ysgrifenedig i’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA), nid mwy na 4 mis cyn yr ydych yn bwriadu ymddeol ac nid hwyrach na’r dyddiad cyn y dechreuir talu eich pensiwn.
Gallwch gyfnewid cymaint neu cyn lleied ag y dymunwch a bwrw nad ydych yn mynd y tu hwnt i'r terfyn a ganiateir. Mae’r terfyn yn dibynnu ar amgylchiadau eich ymddeoliad, fel a ganlyn:
Rheswm dros eich Ymddeoliad |
Terfyn Arian di-dreth (yn amodol i derfyn CThEM) |
gyda phensiwn salwch; neu
gyda phensiwn oed ymddeol yn seiliedig ar 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy; neu
gyda phensiwn gohiriedig; neu
wedi cyrraedd oed arferol pensiwn (55) neu’n hŷn. |
Yr uchafswm y gellir ei gyfenwid yw 25% y pensiwn (dim ond elfen haen is pensiwn salwch haen uwch y gellir ei gyfnewid) |
yn 50 oed neu’n hŷn ond yn iau na 55, gyda 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy ond llai na 30. |
Ni all y cyfandaliad fod yn fwy na 2.25 gwaith y pensiwn cyn ei gyfnewid |
Dalier Sylw
Caiff y swm a ddarperir yn gyfandaliad ei benderfynu gan ffactorau a ddarperir gan Actiwari’r Llywodraeth. Bydd y ffactor a ddefnyddir yn dibynnu ar eich oed mewn blynyddoedd a misoedd cyflawn ar y diwrnod y mae’r pensiwn yn dechrau.