Telir pensiynau a chyfandaliadau o Chynllun 1987 gan Heddlu Dyfed-Powys. Fel arfer, telir cyfandaliadau yn fuan ar ôl ymddeol. Telir pensiynau ymlaen, fel arfer yn fisol drwy drosglwyddiad credyd i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Telir y budd-daliadau cyntaf i oroeswyr cyn gynted â phosib ar ôl marwolaeth yr aelod (mae angen amser i gysylltu â’r goroeswyr a sefydlu eu hawl). Fel arfer, telir y taliadau dilynol yn fisol i’r buddiolwyr.
Telir pensiynau a chyfandaliadau i’r sawl sydd â hawl iddynt (y buddiolwr), oni bai bod yr unigolyn hwnnw dan 18 oed neu’n analluog i reoli ei faterion ariannol. Mewn achosion fel hyn, gellir gwneud y taliadau i’r berthynas neu’r gwarcheidwad sy’n gofalu am y buddiolwr er bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu polisi o dalu pensiynau plant yn uniongyrchol i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu y plentyn ei hun.
Os yw eich taliadau pensiwn (o ran eich holl bensiynau ac eithrio Pensiwn y Wladwriaeth) yn fach iawn ac yr ydych wedi cyrraedd eich Oedran Pensiwn Wladwriaeth (OPW), gallwch ofyn am i’r cyfan o bensiwn o Chynllun 1987 sy’n weddill gael ei dalu i chi fel cyfandaliad. Gelwir hwn yn ‘gyfnewid dibwys’ yn nhermau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
-
Treth Incwm
Mae eich pensiwn blynyddol yn destun Treth Incwm - Cynllun Talu Wrth Ennill, a rhaid i Heddlu Dyfed Powys gydymffurfio â’r codau a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Gweinyddir taliadau eich pensiwn blynyddol gan Heddlu Dyfed Powys. Ar eich ymddeoliad, bydd y cod treth oedd yn berthnasol cyn hynny yn parhau i gael ei ddefnyddio ar sail Mis Un ac yna gofynnir i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddarparu’r cod priodol.
Os nad yw eich cod treth yn hysbys ar unwaith, gweithredwyd cod 0T (dim lwfans di-dreth) fel mesur dros dro.
Dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch codau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi:
Ffôn: 0300 200 1900
I ddatrys eich ymholiad bydd angen i chi roi eich Cyfenw, Rhif Yswiriant Gwladol a dyfynnu’r cyfeirnod 615/D1100.
-
Dyddiadau Talu
Mae’r dyddiadau talu ar gyfer 2020/21 fel a ganlyn.
1 Ebrill 2020
1 Mai 2020
1 Mehefin 2020
1 Gorffennaf 2020
3 Awst 2020
1 Medi 2020
1 Hydref 2020
2 Tachwedd 2020
1 Rhagfyr 2020
4 Ionawr 2021
1 Chwefror 2021
1 Mawrth 2021
Dalier Sylw
Telir eich pensiwn yn fisol, ymlaen, ar y dyddiadau uchod.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch taliad eich pensiwn, cysylltwch ag Heddlu Dyfed-Powys (fel darparwr y Gyflogres).
-
Newid eich Cyfeiriad
Hyd yn oed ar ôl i chi ddechrau derbyn eich pensiwn, bydd angen i Heddlu Dyfed-Powys i gadw’r cofnod diweddaraf o’ch cyfeiriad cartref, felly cofiwch ddweud wrthym os ydych yn symud tŷ. Heb y wybodaeth hon, ni allwn eich hysbysu am eich taliadau nag am unrhyw gynnydd yn y pensiwn.
Rhaid i chi hysbysu Heddlu Dyfed-Powys yn ysgrifenedig os ydych yn newid eich cyfeiriad cartref.
-
Newid Manylion eich Cyfrif Banc
Telir eich pensiwn bob mis calendr yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc drwy drosglwyddiad BACS. Heddlu Dyfed-Powys sy’n gyfrifol am dalu eich pensiwn. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn nifer o alwadau gan bensiynwyr yn dymuno newid manylion eu cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu.
Am resymau diogelwch, NI all Heddlu Dyfed-Powys wneud y newidiadau hyn ar sail gwybodaeth a dderbynnir dros y ffôn, felly rhaid i chi hysbysu Heddlu Dyfed-Powys yn ysgrifenedig os ydych angen newid manylion eich cyfrif.
Dalier Sylw
Fel arfer mae’r gyflogres yn cau oddeutu’r 24ain o’r mis, felly NI fydd unrhyw newid i fanylion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn dod i rym tan daliad y mis nesaf.
-
Ailbrisiad
Codir taliadau pensiwn yn flynyddol yn unol â chwyddiant. Mae’r codiadau hyn a delir i bob pensiynwr sy’n 55 oed neu’n hŷn, yn sicrhau fod y budd yn cadw ei rym prynu gwreiddiol. Mae pensiynau gohiriedig hefyd yn cynyddu er cynnal eu gwerth hyd at y dyddiad y maent yn daladwy.
Bydd codiadau chwyddiant yn cael eu talu hefyd:
- i chi cyn eich bod yn 55 oed os oeddech wedi ymddeol ar sail salwch neu anafiadau, neu os ydych yn gwbl anabl i gyflawni unrhyw alwedigaeth ac felly’n analluog i ennill bywoliaeth;
- i’ch goroeswyr sy’n derbyn budd-daliadau goroeswyr.
Pan fydd yn amser talu’r cynnydd mewn pensiwn rhoddir ystyriaeth i’r symudiadau ym Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ers dyddiad eich ymddeoliad. Mae pensiynau goroeswyr yn cael eu cynyddu cyn gynted ag y telir y pensiwn.
Mae pensiwn gohiriedig sy’n cael ei dalu ar gyrraedd 60 oed yn cael ei gynyddu, ond os yw’n cael ei dalu cyn cyrraedd 55 oed, oherwydd anabledd parhaol, ni fydd yn cael ei gynyddu nes cyrraedd 55 oed, os nad ydych yn anabl i gyflawni unrhyw waith llawn amser.
Dalier Sylw
Ni ellir talu eich pensiwn o Chynllun 1987 ond i chi. At ddibenion treth incwm, trinnir pob pensiwn fel incwm a enillwyd a thynnir treth ohono cyn ei dalu, ond bydd eich cyfandaliad cyfnewid yn ddi-dreth ac felly hefyd cyfandaliad grant marwolaeth i’ch goroeswyr.