Telir pensiynau ymddeoliad gan y Llu Heddlu y gwnaethoch ymddeol ohono. Mae pensiynau yn daladwy ymlaen llaw, bob mis fel arfer trwy drosglwyddiad credyd i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Bydd buddion goroeswyr yn cael eu talu cyn gynted â phosibl ar ôl marwolaeth aelod (rhaid cael amser i gysylltu gyda’r goroeswr a sefydlu ei hawl). Telir y taliadau dilynol i oroeswyr yn fisol.
Telir pensiynau a chyfandaliadau i’r goroeswr oni bai bod yr unigolyn hwn dan 18 oed neu nad yw’n gallu rheoli ei faterion ariannol ef neu hi ei hunan. Rhaid i bensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy i blentyn cymwys sydd dan 18 ac sydd yng ngofal eich goroeswr sy’n oedolyn gael ei dalu i’r goroeswr sy’n oedolyn.
Os yw eich taliadau pensiwn (am eich holl bensiynau ac eithrio Pensiwn y Wladwriaeth) yn fychan a’ch bod wedi cyrraedd eich OPW, gallwch ofyn am i’r holl daliadau pensiwn Cynllun 2015 sy’n weddill gael eu talu fel cyfandaliad, a gall y cyfan fod yn drethadwy. Gelwir hyn yn ‘gymudiad dibwys’ yng ngeirfa Cyllid a Thollau EM. Mae rheolau HMRC yn rheoli yr hyn all fod yn daladwy.
-
Treth Incwm
Mae eich pensiwn blynyddol yn destun Treth Incwm - Cynllun Talu Wrth Ennill, a rhaid i Heddlu Dyfed-Powys gydymffurfio â’r codau a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Gweinyddir taliadau eich pensiwn blynyddol gan Heddlu Dyfed-Powys. Ar eich ymddeoliad, bydd y cod treth oedd yn berthnasol cyn hynny yn parhau i gael ei ddefnyddio ar sail Mis Un ac yna gofynnir i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddarparu’r cod priodol.
Os nad yw eich cod treth yn hysbys ar unwaith, gweithredwyd cod 0T (dim lwfans di-dreth) fel mesur dros dro.
Dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch codau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi:
Ffôn: 0300 200 1900
I ddatrys eich ymholiad bydd angen i chi roi eich Cyfenw, Rhif Yswiriant Gwladol a dyfynnu’r cyfeirnod 615/D1100.
-
Dyddiadau Talu
Mae’r dyddiadau talu ar gyfer 2021/22 fel a ganlyn.
1 Ebrill 2021
4 Mai 2021
1 Mehefin 2021
1 Gorffennaf 2021
2 Awst 2021
1 Medi 2021
1 Hydref 2021
1 Tachwedd 2021
1 Rhagfyr 2021
4 Ionawr 2022
1 Chwefror 2022
1 Mawrth 2022
Dalier Sylw
Telir eich pensiwn yn fisol, ymlaen, ar y dyddiadau uchod.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch taliad eich pensiwn, cysylltwch ag Heddlu Dyfed-Powys (fel darparwr y Gyflogres).
-
Newid eich Cyfeiriad
Hyd yn oed ar ôl i chi ddechrau derbyn eich pensiwn, bydd angen i Heddlu Dyfed-Powys i gadw’r cofnod diweddaraf o’ch cyfeiriad cartref, felly cofiwch ddweud wrthym os ydych yn symud tŷ. Heb y wybodaeth hon, ni allwn eich hysbysu am eich taliadau nag am unrhyw gynnydd yn y pensiwn.
Rhaid i chi hysbysu Heddlu Dyfed-Powys yn ysgrifenedig os ydych yn newid eich cyfeiriad cartref.
-
Newid Manylion eich Cyfrif Banc
Telir eich pensiwn bob mis calendr yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc drwy drosglwyddiad BACS. Heddlu Dyfed-Powys sy’n gyfrifol am dalu eich pensiwn. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn nifer o alwadau gan bensiynwyr yn dymuno newid manylion eu cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu.
Am resymau diogelwch, NI all Heddlu Dyfed-Powys wneud y newidiadau hyn ar sail gwybodaeth a dderbynnir dros y ffôn, felly rhaid i chi hysbysu Heddlu Dyfed-Powys yn ysgrifenedig os ydych angen newid manylion eich cyfrif.
Dalier Sylw
Fel arfer mae’r gyflogres yn cau oddeutu’r 24ain o’r mis, felly NI fydd unrhyw newid i fanylion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn dod i rym tan daliad y mis nesaf.
-
Ailbrisiad
Bydd pensiynau sy’n cael eu talu yn cael eu cynyddu’n flynyddol. Telir y cynnydd hwn i bob pensiynwr sydd wedi cyrraedd OPIA. Mae Pensiynau Gohiriedig hefyd yn cael eu cynyddu i gynnal eu gwerth hyd at y dyddiad y byddant yn dod yn daladwy.
Cynyddir y taliadau hefyd:
- os byddwch, cyn cyrraedd eich OPIA, yn derbyn pensiwn afiechyd neu Bensiwn Gohiriedig a delir yn gynnar oherwydd afiechyd; ac
- i’ch goroeswyr sydd yn derbyn buddion goroeswyr.
Pan fydd y cynnydd yn y pensiwn yn daladwy bydd yn cyfrif symudiadau yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ers dyddiad dechrau eich pensiwn. Bydd y taliadau yn cael eu cynyddu ar ôl hynny ym mis Ebrill bob blwyddyn ac maent yn seiliedig ar y cynnydd yn y CPI yn y 12 mis hyd at ddiwedd y mis Medi cyn hynny.
Mae’r cynnydd yn y pensiwn yn cael ei weithredu ar bensiynau sy’n daladwy o Gynllun 2015 ble bynnag y byddwch yn byw ar ôl eich ymddeoliad, ond gall unrhyw gynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw elfen Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP) yn eich pensiwn gael eu heffeithio os byddwch yn byw tu allan i’r Deyrnas Unedig.
-
Ail-Benodi
Os ydych wedi gadael Gwasanaeth Addas gyda hawl i Bensiwn Gohiriedig a’ch bod yn cael eich ail-benodi fel aelod o Lu Heddlu, bydd eich bwlch mewn gwasanaeth yn effeithio ar y modd y mae eich pensiwn yn cael ei drin.
Eich ail-benodi ar ôl llai na 5 mlynedd:
- Bydd eich gwasanaeth cynharach a’ch gwasanaeth hwyrach yn ffurfio rhan o gyfnod parhaus o wasanaeth pensiynadwy.
- Bydd eich pensiwn Cynllun 2015 yn cael ei ailbrisio fel petaech, yn ystod y bwlch yn eich gwasanaeth, yn Aelod Gweithredol (h.y. wedi ei ailbrisio yn unol â CPI + 1.25% y flwyddyn) ond fel petaech heb dderbyn unrhyw Enillion Pensiynadwy.
- Byddwch yn parhau i grynhoi pensiwn a enillwyd pan fyddwch yn cael eich ail-benodi.
Nid yw’r uchod yn berthnasol os byddwch yn dewis eithrio wrth ddychwelyd i Wasanaeth Cymwys.
Eich ail-benodi ar ôl 5 mlynedd neu fwy:
- Bydd eich pensiwn Cynllun 2015 gwreiddiol yn aros yn Bensiwn Gohiriedig a byddwch yn dechrau cyfnod parhaol newydd o wasanaeth pensiynadwy. Efallai y byddwch yn gymwys am bensiwn ar wahân yn ychwanegol i’ch Pensiwn Gohiriedig. Nid oes dewis i gyfuno’r buddion hyn i wneud un pensiwn.
Dalier Sylw
Ni ellir talu eich pensiwn o Chynllun 2015 ond i chi. At ddibenion treth incwm, trinnir pob pensiwn fel incwm a enillwyd a thynnir treth ohono cyn ei dalu, ond bydd eich cyfandaliad cyfnewid yn ddi-dreth ac felly hefyd cyfandaliad grant marwolaeth i’ch goroeswyr.