Datganiad Cyfrifon
Mae’r Datganiad Cyfrifon yn dwyn at ei gilydd, ar ffurf gryno, ein trafodion ariannol. Cyfnod yr adroddiad yw 12 mis, hyd at 31 Mawrth. Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol inni gyhoeddi Datganiad Cyfrifon blynyddol drafft erbyn 15 Mehefin. Mae’r cyfrifon drafft hyn yn destun archwiliad annibynnol.
Mae’r cyfrifon drafft hefyd yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd a gellir gofyn cwestiynau i’r archwilydd annibynnol. Mae manylion ynghylch y broses hon yn cael eu cyhoeddi yn yr adran hysbysiadau cyhoeddus ar y wefan hon ym mis Mai/Mehefin. Mae’r cyfrifon terfynol a archwiliwyd yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio a’u cyhoeddi erbyn 15fed Medi.
Dalier Sylw
Cyfrifoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin yw cynnal a sicrhau cywirdeb ei wefan; nid yw'r gwaith a gyflawnir gan yr archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hynny, felly nid yw'r archwilwyr yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau posibl i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.