Menter Twyll Genedlaethol (MTG)

Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i Cyngor Sir Gȃr, yr awdurdod gweinyddu ar gyfer Gronfa Bensiwn Dyfed, yn unol â'r gyfraith ddiogelu'r arian cyhoeddus a fydd yn gweinyddu.

Gall yr Awdurdod rannu gwybodaeth a roddir yn blaenorol â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data yn unol â'i bwerau o dan y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall i weld i ba raddau maent yn paru. Gwybodaeth bersonol yw'r data hwn fel arfer. Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu bod modd adnabod ceisiadau a thaliadau twyllodrus. Pan gaiff data ei baru mae'n dynodi bod anghysondeb y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.

Ar hyn o bryd mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod hwn ddarparu gwybodaeth sydd ganddo at y diben hwn. Mae'n ofynnol i’r Awdurdod roi setiau penodol o ddata i'r Archwilydd Cyffredinol er mwyn eu paru. Mae'r manylion wedi'u gosod ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru: http://www.wao.gov.uk/.

Gan fod y defnydd o ddata gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data yn destun awdurdod statudol (Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004), nid oes angen cael caniatâd yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae prosesau paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Mae hyn er mwyn rhoi cymorth i’r cyrff sy’n ymwneud â pharu data i gydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da, gan gynnwys cynnal diogelwch data (gweler http://www.wao.gov.uk/).

Am ragor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau dros baru gwybodaeth benodol, gweler Canllaw hyn neu cysylltwch â Martin Morgan, Dirprwy Rheolwr Pensiynau, drwy ffonio 01267 224 452 neu drwy gyru e-bost at MMorgan@sirgar.gov.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu i Gronfa Bensiwn Dyfed, Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB.