Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gynllun pensiwn galwedigaethol, yn dreth gymeradwyedig, ddiffiniedig a sefydlwyd dan Ddeddf Blwydd-dâl 1972. Seilir buddion y cynllun o 1 Ebrill 2014 ar eich Cyfartaledd Cyflog Gyrfa Wedi’i Adbrisio, er bod unrhyw aelodaeth a gronnwyd ar neu cyn 31 Mawrth 2014 yn parhau i fod yn seiliedig ar gyflog terfynol.

Mae Cronfa Bensiwn Dyfed, fel a weinyddir gan Cyngor Sir Caerfyrddin, yn un o nifer o Gronfeydd Pensiwn Awdurdod Lleol sy'n bodoli ledled y DU ac sy'n dilyn rheolau'r Cynllun.  Cynigir aelodaeth awtomatig o'r Cynllun i bob un o weithwyr cymwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Sir Ceredigion yn ogystal ag ystod eang o gyrff cyflogi cymwys eraill megis Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Colegau lleol, Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned a nifer eraill o Cyrff a dderbynnir i’r Gronfa.

Dalier Sylw

Mae’r adran hon o wefan y Gronfa yn berthnasol os ydych yn ystyried ymuno â’r Cynllun; os ydych yn cyfrannu'n weithredol i'r Cynllun; os ydych wedi gadael y Cynllun cyn ymddeoliad ac wedi gohirio eich buddion, neu os ydych yn derbyn pensiwn o’r Gronfa.

Mae’r cynllun yn ddiogel iawn oherwydd fe drefnir y buddion yn unol â’r gyfraith a gaiff ei reoli gan y Senedd. Yn ogystal, nid oes cyswllt i’r Farchnad-agored, yn wahanol i unrhyw gynllun cyfraniadau diffiniedig.

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), Cynllun Pensiwn yr Heddlu a Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Tân. Mae'r CPLlL ond yn berthnasol i staff nad ydynt yn athrawon. Os ydych yn athro neu'n athrawes, cysylltwch â'r cynllun Pensiynau Athrawon (TPS), sy'n gweinyddu eich cynllun.

Cyngor Sir Caerfyrddin yw gweinyddwr Cronfa Bensiwn Dyfed a defnyddiwn eich data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi.  Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, pwy rydym yn ei rhannu â, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, gwelir Hysbysiad Preifatrwydd y Gronfa.