Pensiynwyr

Os ydych yn cael eich pensiwn eisoes neu ar fin ei gael, bydd yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch yn ystod eich ymddeoliad ar gael yn yr adran hon. Os ydych yn cael Pensiwn Goroeswr, bydd yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi hefyd ar gael yn yr adran hon.

Mae Cronfa Bensiwn Dyfed wedi datblygu rhagor ar ei wasanaeth drwy gyflwyno cyfleuster Fy Mhensiwn Ar-lein, a fydd yn eich galluogi i gyrchu manylion eich pensiwn ar-lein mewn modd diogel. Fel pensiynwr bydd hyn o fantais fawr ichi, gan fod modd ichi gael golwg ar eich taliadau yn y gorffennol, eich côd treth, a'ch dogfennau P60.

Dalier Sylw

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Mae'r CPLlL ond yn berthnasol i staff nad ydynt yn athrawon. Os ydych yn athro neu'n athrawes, cysylltwch â'r cynllun Pensiynau Athrawon (TPS), sy'n gweinyddu eich cynllun.

Cronfa Bensiwn Dyfed