Treth Incwm

Mae'n rhaid talu Treth Incwm – Talu wrth Ennill (TWE) ar bensiynau, ac yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r Gronfa gydymffurfio â'r hysbysiad codau a roddir gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (CThEM).

Pan fyddwch yn ymddeol, dylai eich cyn-Gyflogwr anfon eich P45 i'r Gronfa. Byddwn yn gweithredu y côd treth o'r P45 ar sail Mis 1, nes i CThEM hysbysu côd priodol newydd.

Os nad yw eich cod yn wybyddus ar unwaith bydd cod dros dro yn cael ei ddefnyddio, y cod dros dro yw 1257L.

Dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch codau treth incwm at Gyllid a Thollau ei Mawrhydi:

Ffôn: 0300 200 1900

I gael ateb i'ch cwestiwn, bydd yn rhaid ichi roi eich cyfenw, eich Rhif Yswiriant Gwladol a cyfeirnod Cronfa Bensiwn Dyfed, sef: 615 / D6065C.