Aelodau

Croeso i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar ei newydd wedd sydd wedi cael ei gyflwyno yng Nghymru a Lloegr ers 1 Ebrill 2014. Os oeddech yn aelod gweithredol o'r Cynllun 2008 fel ar 31 Mawrth 2014, byddwch wedi trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd.

Mae ein gwefan wedi cael ei diweddaru'n llwyr er adlewyrchu'r rheoliadau newydd sy'n llywodraethu'r Cynllun.

Mae Cronfa Bensiwn Dyfed wedi datblygu rhagor ar ei wasanaeth drwy gyflwyno cyfleuster Fy Mhensiwn Ar-lein, a fydd yn eich galluogi i gyrchu manylion eich pensiwn ar-lein mewn modd diogel. 

Dalier Sylw

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Mae'r CPLlL ond yn berthnasol i staff nad ydynt yn athrawon. Os ydych yn athro neu'n athrawes, cysylltwch â'r cynllun Pensiynau Athrawon (TPS), sy'n gweinyddu eich cynllun.