Aelodau fel ar 31/03/2014

Cafodd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol newydd 2014 ei gyflwyno ar 1 Ebrill 2014. Os oeddech yn aelod gweithredol o Gynllun 2008 ar 31 Mawrth 2014, byddwch wedi cael eich trosglwyddo'n awtomatig i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2014 ar 1 Ebrill 2014.

Bydd y buddion pensiwn rydych wedi eu cronni o dan y trefniant cyflog terfynol hyd at 31 Mawrth 2014 yn cael eu gwarchod o dan reoliadau 2008. Bydd y buddion hyn yn dal i gael eu cyfrifo gan gyfeirio at eich cyflog pensiynadwy cyfwerth ag amser llawn ar adeg eich ymddeoliad.

Dalier Sylw

Oherwydd dyfarniad yr Uchel Lys ym mis Rhagfyr 2018 mewn perthynas â’r diogelwch trosiannol anghyfreithlon a roddir i aelodau presennol o gynlluniau pensiwn Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd rheoliadau’r Cynllun yn newid maes o law i ystyried y rhwymedi.