Cynyddu eich Buddion

Fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), mae gennych gyfle i wneud cyfraniadau ychwanegol i'ch buddion ymddeol.

Mae'r CPLlL yn cynnig dwy ffordd dreth-effeithlon o wneud hynny:

  • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
  • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)

Hefyd mae'n bosibl y byddwch am ystyried trefniadau preifat y tu allan i'r cynllun, megis Cynllun Pensiwn Personol / Pensiwn Cyfranddeiliaid neu drefniant Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Rhydd.

Dylid nodi y gellir gwneud cyfraniadau ychwanegol hefyd er mwyn cynyddu lefel y buddion marwolaeth sy'n daladwy petaech yn marw yn y swydd.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar gyfraniadau ychwanegol?

Mae rheolau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn caniatáu ichi dalu hyd at 100% o'ch enillion â gostyngiad llawn yn y dreth er darparu buddion o fewn y terfynau a bennwyd. Gan fod eich cyfraniadau arferol i’r CPLlL rhwng 5.5% a 12.5% mae hyn yn gadael cyfran sylweddol o’ch enillion trethadwy i'w buddsoddi mewn cyfraniadau ychwanegol.

Fodd bynnag dylech hefyd gofio am derfyn Lwfans Blynyddol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy'n pennu faint y gall eich buddion pensiwn gynyddu mewn unrhyw flwyddyn benodol h.y. o 1 Ebrill hyd at 31 Mawrth. Y terfyn sydd wedi'i bennu ar hyn o bryd yw £60,000. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.

Dalier Sylw

Ni all Cronfa Bensiwn Dyfed roi unrhyw gyngor ariannol ichi ynghylch yr opsiynau hyn. Felly mae'n bosibl yr hoffech ystyried ceisio Cyngor Ariannol Annibynnol am y mater hwn.

  • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
  • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)