Ysgariad

Pe baech yn cael ysgariad, neu os ydych partneriaeth sifil yn diddymu yn ystod eich cyfnod fel aelod gweithredol o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), bydd hawl gan eich cyn-briod / bartner sifil i dderbyn pensiwn goroeswr os byddwch yn marw, yn dod i ben. Ni fydd yr ysgariad neu ddiddymiad y bartneriaeth yn effeithio ar y pensiwn plant a delir i blentyn cymwys os byddwch farw.

Os ydych wedi enwebu eich cyn-briod / bartner sifil i dderbyn grant marwolaeth ar ffurf cyfandaliad pan fyddwch farw, bydd y dymuniad a fynegwyd gennych yn parhau mewn grym hyd nes y byddwch yn ei newid. Mae'n bosibl y bydd y llys yn gwneud Gorchymyn Clustnodi sy'n datgan bod y cyfan neu ran o'r grant marwolaeth a delir ar ffurf cyfandaliad yn daladwy i'ch cyn-briod / bartner sifil.

Pa broses sy'n cael ei dilyn?

Bydd arnoch angen gwybodaeth benodol ynghylch eich budd-daliadau CPLlL yn rhan o'r achos ysgaru, ymwahanu barnwrol neu ddirymu priodas neu o'r achos diddymu, ymwahanu neu ddirymu partneriaeth sifil. Bydd yn rhaid i chi gysylltu â Chronfa Bensiwn Dyfed i gael amcangyfrif o Werth Cyfatebol mewn Arian Parod yr hawliau pensiwn a drosglwyddir, a fydd wedyn yn gymwys ond am gyfnod o 3 mis. Bydd y Llys yn ystyried y gwerth hwn wrth bennu'r setliad.

Dalier Sylw

Fel rheol, cewch un amcangyfrif di-dâl y flwyddyn. Bydd costau eraill sy'n gysylltiedig â darparu gwybodaeth neu â chydymffurfio â Gorchymyn Llys yn cael eu hadennill gennych chi a / neu eich cyn-briod / bartner sifil yn unol â'r Atodlen Gostau a gyhoeddir gan Gronfa Bensiwn Dyfed.