Codiad Pensiwn 2024 - Cwestiynau Cyffredin

31/01/2024

Y Cynnydd Pensiwn ar gyfer eleni yw 6.7% ac mae'n daladwy o ddydd Llun 8fed Ebrill 2024. Gellir gweld yr effaith lawn o fis Mai 2024

Pwy sy'n cael codiad pensiwn?

Byddwch yn cael y codiad hwn os ydych:

- Yn 55 oed neu'n hŷn; neu
- Yn cael pensiwn gŵr gweddw, gwraig weddw, neu bensiwn plentyn; neu
- Wedi ymddeol ar sail afiechyd

Bydd y codiad llawn ond yn daladwy os dechreuodd eich pensiwn at 10fed Ebrill 2023 neu cyn hynny.         

Os dechreuodd eich pensiwn ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn cael codiad pro rata llai.

Pwy sy'n cyfrif cyfradd y Codiad Pensiwn?

Mae'r Llywodraeth yn asesu cyfradd y codiad drwy gyfeirio at y Mynegrif Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn ystod y 12 mis hyd at y mis Medi blaenorol. Sylwer nad yw'r codiad yn ddewisol ac nad oes gan Cyngor Sir Caerfyrddin yr awdurdod i dalu unrhyw godiad ychwanegol.

Beth yw'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP)?

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod i chi faint yw eich Isafswm Pensiwn Gwarantedig, a gynhwysir yn eich pensiwn. Mae'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig yn gysylltiedig â'r rhan o'ch pensiwn am y cyfnod rhwng mis Ebrill 1978 a mis Ebrill 1997, pryd yr oeddech wedi eich 'contractio allan' o Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS). Mae'n rhaid i'r Cynllun warantu y bydd eich pensiwn am y cyfnod hwn o leiaf yr un faint ag y byddai wedi bod pe na fyddech wedi eich 'contractio allan'.

Pwy sy'n talu'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig?

Os oes gennych wasanaeth cyn 6ed Ebrill 1988 a’ch bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os ydych yn ŵr gweddw neu'n wraig weddw, bydd eich Isafswm Pensiwn Gwarantedig yn cynyddu, ond yn hytrach na chael ei dalu gan y Cynllun, bydd yn cael ei dalu gyda phensiwn y wladwriaeth. O ran unrhyw wasanaeth ar ôl 6ed Ebrill 1988, bydd y Cynllun yn talu hyd at 3% o'r cynnydd yn eich Isafswm Pensiwn Gwarantedig. Bydd unrhyw gynnydd dros 3% yn cael ei dalu gyda phensiwn y wladwriaeth. Nid yw'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig yn effeithio ar eich pensiwn os nad ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, nac os taw gwasanaeth cyn 6ed Ebrill 1978 yn unig sydd gennych.