Cyhoeddiad COVID-19

25/03/2020

Oherwydd yr achos diweddar o COVID-19, bu’n rhaid i Gronfa Bensiwn Dyfed addasu eu patrymau gweithio i sicrhau parhad i'r gwasanaeth a ddarperir i aelodau’r Cynllun a Chyflogwyr y Gronfa.

O ganlyniad, efallai y bydd oedi cyn ymateb i'ch ceisiadau wrth i ni flaenoriaethu ein gwaith. Gwerthfawrogir eich dealltwriaeth yn fawr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydym yn argymell eich bod yn gwneud defnydd llawn o'r gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein i ddiweddaru'ch manylion, perfformio cyfrifiadau buddion, gweld dogfennaeth y Cynllun a llawer mwy. Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn eto, gallwch wneud hynny drwy gyrchu'r dudalen we a dilyn yr arweiniad ar y sgrin. Dyma'r ddolen ar gyfer y gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein.

Mae Cronfa Bensiwn Dyfed yn cynnal y wefan hon, lle gallwch gael gafael ar wybodaeth am Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), Cronfa Bensiwn Dyfed a Chynlluniau Pensiwn yr Heddlu a Ddiffoddwyr Tân. Mae yna hefyd wefan genedlaethol aelodau CPLlL* ar gael, a fydd yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y Cynllun. Dyma'r ddolen ar gyfer gwefan genedlaethol aelodau CPLlL. Efallai y bydd yr adnoddau hyn yn rhoi'r ateb rydych chi'n chwilio amdano, felly gwnewch ddefnydd llawn ohonynt.

Os yw'ch cais yn un brys, Cysylltwch â Ni a byddwn yn ymateb ichi cyn gynted ag y gallwn i'ch helpu gyda'ch ymholiad.

*Yn anffodus, nid yw gwefan cenedlaethol aelodau CPLlL wedi’i gyfieithu.