Marchnadoedd Bondiau Llywodraeth y DU

14/10/2022

Mae Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ymwybodol iawn o benawdau newyddion am yr ansefydlogrwydd presennol ym marchnadoedd bondiau Llywodraeth y DU a'r effaith ar rai cynlluniau pensiwn. Hoffem sicrhau aelodau nad oes gan y Gronfa unrhyw gysylltiad â'r buddsoddiadau penodol sydd wedi'u heffeithio fwyaf (yr hyn a elwir yn Fuddsoddiadau a Yrrir gan Atebolrwydd (LDI)), ac, yn wir, dim ond ychydig iawn o gysylltiad sydd ganddi â bondiau llywodraeth y DU (1.4% fel ar ddiwedd Mehefin 2022). Mae gan eich Cronfa ddigon o incwm o fuddsoddiadau a chyfraniadau cyfredol i dalu am y taliadau pensiwn presennol, a sefyllfa gyllido gref i dalu am daliadau pensiwn yn y dyfodol.

Ymhellach, fel cynllun pensiwn buddion diffiniedig, mae gwerth eich budd-daliadau pensiwn eich hun yn cael ei ddiffinio yn ôl rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac nid yw symudiadau'r farchnad yn cael unrhyw ddylanwad arno.

Felly, yn gryno, nid yw'r helynt presennol yn golygu unrhyw risg materol i'ch pensiwn!"