Opsiynau CGY Mewnol

Mae newidiadau a gyflwynwyd o Ebrill 2015 yn rhoi rhyddid ichi o ran sut y gallwch gael gafael ar eich cynilion pensiwn os ydych yn 55 oed neu'n hŷn a bod pot pensiwn wedi'i gronni o gyfraniadau a dalwyd i mewn i bensiwn gweithle (megis cyfraniad diffiniedig, prynu arian neu gynllun balans arian parod).

Fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), efallai y bydd hefyd gennych gynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) mewnol, sydd wedi'i gategoreiddio fel trefniant Cyfraniad Diffiniedig (DC), er bod CPLlL yn trefniant Fudd-dal Diffiniedig (DB).

Rydych nawr yn gallu trosglwyddo'ch buddion CPLlL a'ch cynllun CGY mewnol yn annibynnol i'w gilydd, yn hytrach na gorfod trosglwyddo'ch holl fuddion o dan y cynllun gyda'i gilydd (fel oedd yn digwydd cyn 6 Ebrill 2015).

Dalier Sylw

Yn anffodus NID yw'r ddogfennau a gyhoeddir ar y dudalen hon wedi'i gyfieithu, gan iddynt gael eu creu gan sefydliadau trydydd parti.