Datganiad Buddion CPLlL 2023

17/08/2023

Fel aelod actif neu gohiriedig o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), bydd eich Datganiad Buddion Blynyddol (DBB) ar gyfer 2023 yn cael ei gyhoeddi erbyn 31ain Awst 2023, ond NI fydd y ffigurau a nodir yn eich datganiad yn cynnwys eich cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) fewnol.

 

Datganiad Copi Caled

Os ydych chi wedi gwneud etholiad i dderbyn copi caled o'ch datganiad, bydd y llyfryn dan y ddolen ar waelod y dudalen yn cynnwys y nodiadau canllaw sydd eu hangen arnoch i ddeall gwahanol adrannau o’r datganiad.  Mae’r llyfryn wedi cael ei baratoi yn unol â gofynion rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Datgelu Gwybodaeth) 2013 a rheoliadau perthnasol y Cynllun.  Ni all y nodiadau hyn gwmpasu pob amgylchiad personol ac os bydd unrhyw anghydfod ynghylch eich datganiad, bydd y ddeddfwriaeth briodol yn cario’r dydd.  NID yw’r nodiadau hyn yn rhoi unrhyw hawliau cytundebol na statudol, ac maent wedi cael eu darparu i roi gwybodaeth yn unig.  Cyfeiriwch at y nodiadau hyn yn ofalus wrth ddarllen eich datganiad.

 

Datganiad Fy Mhensiwn Ar-lein (FMA)

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein, bydd manylion eich datganiad buddion ar gyfer 2023 ar gael i chi eu weld ar-lein o dan adran Datganiad Buddion Blynyddol.  Gallwch hefyd dod o hyd i nodiadau defnyddiol o'r llyfryn Arweiniad o dan y ddolen ar waelod y dudalen.  Os nad ydych yn gallu mewngofnodi i'r gwasanaeth, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

Ychwanegu at eich Buddion (aelodau actif yn unig)

Os yn berthnasol, dylech eisoes fod wedi derbyn datganiad penodol ynghylch eich cynllun CGY gan eich darparwr mewnol perthnasol sef Prudential, Standard Life neu Utmost Life & Pensions.  Os na chawsoch gopi, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.

Os ydych yn ystyried talu cyfraniadau ychwanegol i cynyddu eich buddion pensiwn, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy gyfeirio at y Cynyddu eich Buddion o dan yr adran Aelodau.

Dalier Sylw

Pan newidiodd yr CPLlL o gyflog terfynol i gynllun pensiwn cyfartalog gyrfa yn 2014, cyflwynwyd amddiffyniadau i aelodau hŷn y cynllun (y cyfeirir atynt fel tanategiad). Darparwyd amddiffyniadau tebyg mewn cynlluniau pensiwn eraill yn y sector cyhoeddus. Dyfarnodd y Llys Apêl fod camwahaniaethu ar aelodau iau cynlluniau Pensiwn y Barnwyr a'r Diffoddwyr Tân oherwydd nad yw'r amddiffyniadau'n berthnasol iddynt. Mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd newidiadau i holl brif gynlluniau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys yr CPLlL, i gael gwared ar y camwahaniaethu ar sail oedran. Yn aml, gelwir y dyfarniad hwn yn ddyfarniad McCloud.

Mae'r Llywodraeth yn dal i ystyried yn union pa newidiadau y mae'n rhaid eu gwneud i gael gwared ar y camwahaniaethu o'r CPLlL. Mae hyn yn golygu NAD oedd yn bosibl adlewyrchu effaith y dyfarniad yn eich datganiad buddion blynyddol eleni. Os ydych chi'n gymwys i gael eich amddiffyn, bydd yn berthnasol yn awtomatig - nid oes angen i chi wneud cais.

I gael mwy o wybodaeth am ddyfarniad McCloud, gweler y cwestiynau cyffredin ar wefan genedlaethol CPLlL.