Cynllun Pensiwn Heddlu

Aelodaeth

Rydych yn cael eich cofrestru yn awtomatig ar Gynllun 2015 wrth gael eich penodi i Lu heddlu, oni bai eich bod yn penderfynu dewis optio allan.

Os byddwch yn dewis optio allan, byddwch yn cael eich ail-gofrestru yn awtomatig ar Gynllun 2015 bob 3 blynedd ar eich dyddiad ail-gofrestru awtomatig. Fodd bynnag, i barhau a'ch etholiad optio allan, bydd rhaid i chi ddewis optio allan cyn pen un mis; bydd hyn yn cael ei ôl-ddyddio o’r dyddiad ail-gofrestru awtomatig.

Wrth ymuno â Llu Heddlu, efallai y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol (am ddim) fel bod Heddlu Dyfed-Powys yn gallu penderfynu a ydych ym gymwys i gael buddion afiechyd. Os bydd Awdurdod Pensiwn yr Heddlu yn penderfynu (ar ôl apêl) bod cost debygol rhoi buddion yn anghymesur o uchel, gallwch barhau i ymuno â Chynllun 2015 a thalu cyfraniadau is, ond NI fyddwch yn derbyn buddion afiechyd.

Dalier Sylw

Oherwydd dyfarniad yr Uchel Lys ym mis Rhagfyr 2018 mewn perthynas â’r diogelwch trosiannol anghyfreithlon a roddir i aelodau presennol CPH 1987 / CPH 2006, bydd rheoliadau’r Cynllun yn newid maes o law i ystyried y rhwymedi.

Os ydych yn ystyried optio allan o Gynllun 2015,dylech gysylltu â Chynghorydd Ariannol cyn neud eich penderfynu.

Mae’n bosibl i chi fod yn aelod o Gynllun 2015 a chyfrannu at gynlluniau pensiwn eraill, fel cynllun pensiwn personol, yr un pryd. Cynghorir chi i gysylltu â Chynghorydd Ariannol Annibynnol os oes gennych ddiddordeb yn hyn.