Cynllun Pensiwn Heddlu

Trosglwyddo Buddion Blaenorol

Os oeddech mewn cynllun pensiwn arall neu eich bod wedi cyfrannu at bensiwn personol, efallai y bydd yn bosibl i chi drosglwyddo eich buddion pensiwn i Gynllun 2015.

Os byddwch yn gwneud cais i drosglwyddo buddion pensiwn, byddwch yn cael gwybod faint o bensiwn y byddai’r trosglwyddiad yn ei roi yng Nghynllun 2015, i chi fedru penderfynu a ydych am symud ymlaen i drosglwyddo neu ddewis cadw’r buddion yn eich cynllun blaenorol.

Os yw eich cynllun pensiwn blaenorol yn y Clwb Trosglwyddo Sector Cyhoeddus (y Clwb), gall y pensiwn a drosglwyddir fod yn fwy nag y byddai pe derbynnid trosglwyddiad o gynllun pensiwn arall. Ond, mae’n rhaid i chi wneud cais i drosglwyddo unrhyw fuddion gohiriedig o gynllun Clwb arall cyn pen 12 mis o ymuno â Chynllun 2015

Os byddwch yn symud rhwng Lluoedd Heddlu yng Nghymru a Lloegr, NI fydd eich hawliau pensiwn yn newid. Byddwch yn parhau yng Nghynllun 2015 a bydd swm y pensiwn a grynhowyd yng Nghynllun 2015 yn aros yr un fath.

Dalier Sylw

Efallai na fydd y gwerth trosglwyddo yn prynu yr un faint o bensiwn a grynhowyd yng Nghynllun 2015 ag a oedd gennych yn eich cynllun blaenorol.

Os byddwch yn ymuno â Chynllun 2015 ar ôl gadael Cynllun Pensiwn Heddlu Gogledd Iwerddon 2015 neu Gynllun Pensiwn Heddlu yr Alban 2015, mae unrhyw bensiwn a grynhowyd yn y Cynllun hwnnw yn cael ei drosglwyddo i Gynllun 2015.

Os oes gennych fwlch yn eich gwasanaeth sy’n fwy na 5 mlynedd, efallai NA fydd y darpariaethau uchod yn berthnasol.