Cynllun Pensiwn Heddlu

Oedran Ymddeol

Dan Gynllun 2015, eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA) yw’r oedran pan ddaw buddion i gael eu talu yn llawn heb unrhyw addasiad actiwaraidd. Eich OPA o dan Gynllun 2015 yw 60.

Fodd bynnag, os byddwch yn gadael y Llu Heddlu neu yn dewis optio allan o Gynllun 2015 ar ôl NMPA a chyn OPA gydag o leiaf ddwy flynedd o Wasanaeth Cymwys ac nad ydych yn hawlio taliad eich pensiwn, byddwch yn dod yn gymwys i gael Pensiwn Gohiriedig yn daladwy yn llawn pan fyddwch yn cyrraedd eich Oedran Pensiwn Wladwriaeth (OPW), a all newid yn y dyfodol.

Gallwch hawlio taliad o’ch Pensiwn Gohiriedig ar unwaith yn ddarostyngedig i ostyngiad actiwaraidd o’ch OPW. Gall Pensiwn Gohiriedig gael ei dalu yn gynnar heb ostyngiad actiwaraidd os ydych yn anaddas yn feddygol yn barhaol am waith arferol. Ond, ni allwch ymddeol gyda phensiwn dan Gynllun 2015 cyn i chi gyrraedd eich Oedran Pensiwn Isaf Arferol (OPIA) heblaw ar sail afiechyd.

Dalier Sylw

Os nad ydych wedi cyrraedd yr OPA a’ch bod yn mynd yn anaddas yn feddygol yn barhaol i gyflawni dyletswyddau arferol aelod o Lu Heddlu tra’n Aelod Gweithredol o’r cynllun, efallai y bydd y Llu Heddlu yn ei gwneud yn ofynnol i chi ymddeol ar sail afiechyd.

Ni fydd pensiwn a dalwyd ar ôl eich OPA yn derbyn gostyngiad actiwaraidd, Ond bydd pension a dalwyd cyn eich OPA yn derbyn gostyngiad actiwaraidd (oni bai bod y pensiwn yn dod yn daladwy ar sail afiechyd).