Cynllun Pensiwn Heddlu

Cynllun Pensiwn Heddlu 1987

Mae’r adran hon yn berthnasol i’r Aelodau Gweithredol hynny y rhoddwyd diogeliad trosiannol iddynt yng Nghynllun Pensiwn yr Heddlu 1987 (y cyfeirir ato fel Cynllun 1987 drwy’r adran hon i gyd).

Mae hefyd yn berthnasol i’r Swyddogion hynny sydd wedi gadael Cynllun 1987 gyda budd gohiriedig, neu i’r rheiny sydd eisoes yn cael pensiwn a ddyfarnwyd o dan Gynllun 1987.

Dalier Sylw

Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddiwygio Cynllun Pensiwn yr Heddlu ar adran y Swyddfa Gartref ar wefan gov.uk.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gweinyddwr Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu a Diffoddwyr Tân, yn defnyddio eich data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, pwy rydym yn ei rhannu â, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Bensiwn Dyfed.

Canllaw y Cynllun