Cynllun Pensiwn Heddlu

Buddion Marwolaeth

Os ydych yn marw yn ystod eich gwasanaeth i’r heddlu, a bwrw eich bod yn aelod o Chynllun 1987 ar adeg eich marwolaeth (a heb adael y Cynllun), bydd cyfandaliad grant marwolaeth ddwywaith swm eich cyflog pensiynadwy blynyddol yn cael ei dalu i’ch priod neu bartner sifil sy’n eich goroesi. Os nad oes priod neu bartner sifil yn eich goroesi, bydd yn cael ei dalu i’ch cynrychiolydd personol - fel arfer Ysgutor eich ewyllys, ac felly bydd yn llunio rhan o’ch Ystâd.

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, bydd y cyfandaliad ddwywaith eich cyflog pensiynadwy blynyddol fel gweithiwr rhan-amser.

Enghraifft

Cyflog cyfwerth â llawn amser Tony yw £30,000 y flwyddyn, ond mae’n gweithio 32 awr yr wythnos, felly ei gyflog pensiynadwy blynyddol yw £24,000 y flwyddyn (32/40 x £30,000).

Pe byddai’n marw mewn swydd ac yntau’n aelod o Chynllun 1987, y cyfandaliad grant marwolaeth fyddai’n daladwy ar ei farwolaeth fyddai £48,000 (2 x £24,000).

Nid yw hyd y gwasanaeth yn berthnasol i’r grant marwolaeth a fydd yn cael eu dalu.

  • Buddion Goroeswyr
  • Pensiynau Plant