Cynllun Pensiwn Heddlu

Cynyddu eich Buddion

Gallwch ddewis cynyddu eich darpariaeth pensiwn o dan Cynllun 1987, yn neilltuol os na fydd modd i chi grynhoi 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy cyn cyrraedd yr oed y bwriadwch ymddeol. Mae gennych y dewis o brynu rhagor o fudd-daliadau drwy ‘flynyddoedd ychwanegol’, ond efallai eich bod eisioes yn talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) i brynu rhagor o fudd-daliadau ar gyfer eich hun/priod drwy Standard Life.

  • Ychwanegu at eich Aelodaeth
  • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)

Dalier Sylw

Mae'r trefniant CGY wedi cau i gyfranwyr newydd o 1 Hydref 2010. Mae hyn yn golygu hyd yn oed, NI fydd gyfranwyr presennol galli cynyddu eu cyfraniadau, ac ni fyddwch galli drosglwyddo unrhyw fudd-daliadau CGY eraill i mewn i'ch cronfa.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gosod terfynau cyffredinol ar gyfraniadau pensiwn i’w tynnu cyn treth, ond maent yn hael iawn. Ar hyn o bryd, os nad ydych yn ennill cyflog uchel iawn, mae modd i chi dalu hyd at holl eich enillion trethadwy mewn blwyddyn dreth yn gyfraniadau pensiwn i’w tynnu cyn talu treth – er y gallai’r swm hwnnw gael ei gyfyngu mewn unrhyw flwyddyn os bydd eich hawliau pensiwn o dan Cynllun 1987 wedi cynyddu’n sylweddol (er enghraifft, os ydych wedi cael dyrchafiad neu wedi cael eich penodi i swydd uwch).

Gallwch hefyd cymryd allan gynllun pensiwn personol ar yr un pryd ag y byddwch yn cyfrannu at Cynllun 1987.

Argymhellir yn gryf eich bod yn ceisio Cyngor Ariannol Annibynnol cyn gwneud unrhyw benderfyniad.