Absenoldeb o'r Gwaith
Gall unrhyw gyfnod o absenoldeb di-dâl effeithio eich gwasanaeth pensiynadwy. Fel arfer, ni all cyfnodau o absenoldeb gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy oni thelir cyfraniadau pensiwn am y cyfnod o absenoldeb.
Mae absenoldeb salwch ar gyflog llawn neu gyflog is ac absenoldeb mamolaeth â thâl, absenoldeb cefnogi mamolaeth â thâl ac absenoldeb mabwysiadu â thâl, yn cyfrif at wasanaeth pensiynadwy os telir cyfraniadau pensiwn am y cyfnodau hynny.
Ni all absenoldeb di-dâl, ac eithrio 26 wythnos gyntaf absenoldeb mamolaeth, gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy oni bai eich bod yn talu’r cyfraniadau pensiwn a fyddai wedi bod yn daladwy yn ystod y cyfnod hwnnw. Trefniant yw hwn yn unig ar gyfer cyfnodau o absenoldeb mamolaeth/rhiant di-dâl neu gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl sy’n para llai na 6 mis.
Ni allwch dalu cyfraniadau pensiwn am gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl sy’n hwy na chyfanswm o 12 mis yn ystod eich gwasanaeth gyda’r heddlu. Os dymunwch dalu cyfraniadau yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi hysbysu Heddlu Dyfed-Powys o fewn 6 mis o ddychwelyd i weithio, neu erbyn y dyddiad yr ydych yn gadael y gwasanaeth os yw hynny’n digwydd ynghynt. Gellir talu’r cyfraniadau mewn cyfandaliad neu mewn rhandaliadau.
Cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys i gael rhagor o wybodaeth.
Dalier Sylw
NI ellir talu cyfraniadau pensiwn am Seibiant Gyrfa di-dâl.