Cynllun Pensiwn Heddlu

Salwch

Mae’r trefniadau ar gyfer ymddeol ar sail salwch yn Cynllun 1987 yn gymhleth. Mae trefn weithdrefnol benodol ar gael a chyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniad, rhaid i Heddlu Dyfed-Powys ofyn cwestiynau penodol i Ymarferydd Meddygol a ddewiswyd ganddynt (yr ‘ymarferydd meddygol dethol’) i bennu a ydych yn barhaol anabl i ‘gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o lu’r heddlu’. Seilir barn y meddyg ar archwiliad meddygol (heblaw mewn amgylchiadau eithriadol).

Hyd yn oed os ydych yn cael eich asesu yn barhaol anabl i gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o lu’r heddlu, ni yw hynny o reidrwydd yn golygu y byddech yn gorfod ymddeol ar sail salwch. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried eich anableddau penodol a’ch galluoedd cyffredinol i weld a oes dyletswyddau eraill y gallech eu cyflawni wrth ddal i fod yn Swyddog yr heddlu.

Os bydd yr ymarferydd meddygol dethol yn barnu eich bod yn barhaol anabl i gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o lu’r heddlu ac nid oes unrhyw ddyletswyddau addas eraill y gallech eu cyflawni yn y llu (wedi ystyried eich anableddau a’ch galluoedd), bydd Heddlu Dyfed-Powys yn penderfynu a ddylai eich ymddeol ar sail y rhesymau hynny. Os hynny, bydd gennych hawl i dderbyn pensiwn salwch a chyfandaliad a hynny’n ddi-oed:

  • os oes gennych ddwy flynedd o leiaf o wasanaeth pensiynadwy ac mae eich ymddeoliad ar sail anabledd parhaol, neu
  • ar ôl unrhyw hyd o wasanaeth os yw eich ymddeoliad ar sail anabledd parhaol o ganlyniad i chi gael eich anafu ar ddyletswydd.

Mae’r modd y cyfrifir pensiwn salwch yn debyg i’r modd y cyfrifir pensiwn cyffredin ac yna fel arfer bydd yn cael ei ychwanegu i wneud iawn am y cyfle a gollwyd i wasanaethu hyd oed ymddeol arferol. Mae’r ychwanegiadau wedi’u nodi yn y tabl isod. Uchafswm pensiwn salwch yw 40/60 ac mae pob ychwanegiad yn ddibynnol ar yr amod nad yw gwasanaeth pensiynadwy yn fwy na’r hyn y gellid fod wedi’i gwblhau erbyn yr oed ymddeol gorfodol.

Cyfnod eich Gwasanaeth Pensiynadwy Yr Ychwanegiad a Rhoddir
2 hyd at lai na 5 mlynedd 1/60 y flwyddyn (dim ychwanegiad)
5 i 10 mlynedd 2/60 y flwyddyn
10 i 13 blynedd 20/60
Mwy na 13 blynedd 7/60, ynghyd â 
1/60 ar gyfer bob blwyddyn hyd at 20 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy
2/60 ar gyfer pob blwyddyn dros 20 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy