Faint byddaf yn Talu?
Eich Cyflogwr sy'n darparu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar eich cyfer ac ef felly sy'n talu'r rhan fwyaf o gost eich budd-daliadau. Mae'r swm yr ydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei ennill, ond bydd rhwng 5.5 a 12.5% o'ch cyflog pensiynadwy o dan BRIF Adran y Cynllun.
Mae'r gyfradd yr ydych yn ei thalu yn dibynnu ar y band sy'n gymwys i chi, ond fydd yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy gwirioneddol. Fodd bynnag, mae'r swm yr ydych yn ei dalu mewn gwirionedd yn llawer llai nag y tybiwch gan fod y cyfraniadau yn ddi-dreth. (Noder y bydd unrhyw goramser cytundebol neu angytundebol yr ydych yn ymgymryd yn cael ei ystyried yn bensiynadwy).
Gallwch hefyd ddewis haneru eich cyfradd gyfrannu arferol, er mwyn cronni hanner lefel y pensiwn yn y cynllun yn ystod y cyfnod hwn, a allai fod yn well dewis na pheidio â bod yn rhan o'r cynllun o gwbl. Gelwir hyn yn Adran 50/50 y Cynllun.
Trefniant Cyfrannu 2024/25
Eich Cyflog Pensiynadwy Gwirioneddol |
Cyfradd Cyfrannu i'r BRIF Adran |
Cyfradd Cyfrannu i'r Adran 50/50 |
Hyd at £17,600 | 5.50% | 2.75% |
£17,601 i £27,600 | 5.80% | 2.90% |
£27,601 i £44,900 | 6.50% | 3.25% |
£44,901 i £56,800 | 6.80% | 3.40% |
£56,801 i £79,700 | 8.50% | 4.25% |
£79,701 i £112,900 | 9.90% | 4.95% |
£112,901 i £133,100 | 10.50% | 5.25% |
£133,101 i £199,700 | 11.40% | 5.70% |
Mwy na 199,701 | 12.50% | 6.25% |