Cynllun Pensiwn Heddlu

Absenoldeb o'r Gwaith

Gall unrhyw gyfnod o absenoldeb di-dâl effeithio eich gwasanaeth pensiynadwy. Fel arfer, ni all cyfnodau o absenoldeb gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy oni thelir cyfraniadau pensiwn am y cyfnod o absenoldeb. Mae absenoldeb salwch ar gyflog llawn neu gyflog is ac absenoldeb mamolaeth â thâl, absenoldeb cefnogi mamolaeth â thâl ac absenoldeb mabwysiadu â thâl, yn cyfrif at wasanaeth pensiynadwy os telir cyfraniadau pensiwn am y cyfnodau hynny.

Ni all absenoldeb di-dâl, ac eithrio 26 wythnos gyntaf absenoldeb mamolaeth, gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy oni bai eich bod yn talu’r cyfraniadau pensiwn a fyddai wedi bod yn daladwy yn ystod y cyfnod hwnnw. Trefniant yw hwn yn unig ar gyfer cyfnodau o absenoldeb mamolaeth/rhiant di-dâl neu gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl sy’n para llai na 6 mis.

Os dymunwch dalu cyfraniadau yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi hysbysu Heddlu Dyfed-Powys o fewn 6 mis o ddychwelyd i weithio, neu erbyn y dyddiad yr ydych yn gadael y gwasanaeth os yw hynny’n digwydd ynghynt. Rhaid i'r cyfraniadau cael eu talu o fewn 2 flynedd o'r ddyddiad mae Heddlu Dyfed Powys yn rhoi gwybod i chi o'r swm i'w dalu.

Dalier Sylw

Ni ellir talu cyfraniadau pensiwn am Seibiant Gyrfa di-dâl.