Cynllun Pensiwn Heddlu

Cyfrifo eich Buddion

Mae swm eich budd-daliadau ymddeol a’r dyddiad y maent yn dod yn daladwy yn dibynnu ar eich oed, eich cyflog pensiynadwy terfynol a hyd eich gwasanaeth pensiynadwy. Mae hyn yn berthnasol i’r rheiny sydd â 2 flynedd o leiaf o wasanaeth cymwys.

Os ydych yn aelod o Chynllun 2006 byddwch yn gallu ymddeol ar gyrraedd 55 oed a derbyn pensiwn yn ddi-oed. Fodd bynnag, os ydych yn gadael yr heddlu a bod gennych 2 flynedd o leiaf o wasanaeth cymwys cyn 55 oed, neu os ydych yn dewis gadael Cynllun 2006 ar unrhyw oed, bydd gennych hawl i bensiwn gohiriedig a fydd yn daladwy ar gyrraedd 65 oed. Gellir talu pensiwn gohiriedig yn gynharach mewn achos o salwch, neu os dewiswch dderbyn swm llai.

Byddwch yn derbyn pensiwn am oes ynghyd â chyfandaliad di-dreth. Seilir eich pensiwn ar 1/70fed o’ch cyflog pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth pensiynadwy hyd at uchafswm o 35/70fed. Mae’r cyfandaliad yn 4 gwaith y pensiwn blynyddol. Gallwch gyfnewid rhan neu’r cyfan o’ch cyfandaliad am bensiwn blynyddol mwy.

Enghraifft

Cyflog pensiynadwy terfynol Swyddog yw £30,000 ac mae ei wasanaeth pensiynadwy yn 21 mlynedd.

Cyfrifwyd ei bensiwn blynyddol fel 21 mlynedd x 1/70 x £30,000 = £9,000 y flwyddyn (wrth-indecs ar ôl y flwyddyn gyntaf).

Cyfrifwyd ei gyfandaliad di-dreth awtomatig fel 21 mlynedd x 4/70 x £30,000 x 4 = £36,000

  • Gwasanaeth Pensiynadwy
  • Enillion Pensiynadwy
  • Cyfnewid eich Cyfandaliad