Cynllun Pensiwn Heddlu

Salwch

Mae’r trefniadau ar gyfer ymddeol ar sail salwch o dan Cynllun 2006 yn gymhleth. Mae trefn weithdrefnol benodol ar gael a chyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniad rhaid i Heddlu Dyfed-Powys ofyn cwestiynau penodol i Ymarferydd Meddygol a ddewiswyd ganddynt (yr ‘Ymarferydd Meddygol Dethol’) i bennu a ydych yn barhaol anabl i ‘gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o lu’r heddlu’. Seilir barn y meddyg ar archwiliad meddygol (heblaw mewn amgylchiadau eithriadol).

Hyd yn oed os ydych yn cael eich asesu yn barhaol anabl i gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o lu’r heddlu, ni yw hynny o reidrwydd yn golygu y byddech yn gorfod ymddeol ar sail salwch. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried eich anableddau penodol a’ch galluoedd cyffredinol i weld a oes dyletswyddau eraill y gallech eu cyflawni wrth ddal i fod yn Swyddog yr heddlu.

Mae dwy lefel o ymddeoliad ar sail salwch:

  • os ydych yn barhaol anabl i gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o’r heddlu, gallech fod yn gymwys i bensiwn salwch Safonol;
  • os ydych yn barhaol anabl i gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o’r heddlu a hefyd rydych yn barhaol anabl ar gyfer unrhyw waith rheolaidd, gallech fod yn gymwys i bensiwn salwch Ychwanegol atodol yn ogystal â phensiwn salwch safonol. At y diben hwn, mae 'gwaith rheolaidd' yn golygu gwaith am 30 awr yr wythnos o leiaf ar gyfartaledd mewn blwyddyn.

Uchafswm posib y pensiwn salwch yw 35/70fed ac mae cyfandaliad cysylltiedig sy’n werth 4 gwaith y pensiwn.