Diogelwch y Cynllun
Daeth Cynllun 2015 i rym ar 1 Ebrill 2015, ond ni fydd pob aelod gweithredol o Gynllun 2006 wedi trosglwyddo i Gynllun 2015, gan y rhoddir diogeliad i ddau grŵp:
- Aelod â Diogeliad Trosiannol
- Aelod â Diogeliad Taprog
Aelod â Diogeliad Trosiannol oedd aelod gweithredol o gynllun 2006 â 10 mlynedd neu lai cyn ei Oedran Pension Arferol (NPA) fel ar 1 Ebrill 2012. Bydd aelodau o'r fath wedi cael eu hamddiffyn yn llawn ac NI fydd wedi cael eu symud i mewn i Gynllun 2015.
Aelod â Diogeliad Trosiannol oedd aelod gweithredol o gynllun 2006, rhwng 41 a 45 mlwydd oed fel ar 1 Ebrill, 2012.
Bydd aelodau â Diogeliad Taprog yn symud i gynllun 2015 mewn modd taprog. Cliciwch yma os ydych yn aelod o’r fath ac eisiau cael eich dyddiad taprog.
Dalier Sylw
Bydd pob aelod sydd heb ei ddiogelu wedi trosglwyddo i gynllun 2015 o 1 Ebrill 2015 ymlaen.