Anghofio eich enw Defnyddiwr
Cliciwch ar Wedi anghofio eich Enw Defnyddiwr. Bydd angen ichi gadarnhau eich cyfenw, eich rhif YG (Yswiriant Gwladol) a'ch dyddiad geni. Yna bydd cadarnhad o'ch Enw Defnyddiwr yn cael ei anfon atoch drwy neges e-bost.
Anghofio eich Cyfrinair
Wrth ddewis Wedi anghofio eich cyfrinair bydd yn ofynnol ichi gadarnhau eich enw defnyddiwr, eich cyfenw, eich rhif YG a'ch dyddiad geni. Yna bydd neges e-bost yn cael ei hanfon i'ch cyfrif e-bost, gan roi dolen gyswllt ichi er mwyn ichi allu creu cyfrinair newydd.
Anghofio eich Atebion Diogelwch
Ar ôl ichi roi eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, dewiswch Wedi anghofio eich Ateb Diogelwch. Bydd yn rhaid ichi gadarnhau eich enw defnyddiwr, eich cyfenw, eich rhif YG a'ch dyddiad geni er mwyn peri i neges e-bost gael ei chreu a gaiff ei hanfon i'ch cyfrif e-bost. Yn y neges e-bost bydd dolen gyswllt a fydd yn eich galluogi i ail-greu eich atebion diogelwch.
Diweddaru eich Cyfrinair a'ch Ateb Diogelwch
Cyfeiriwch at yr opsiwn Gosodiadau Cyfrif yn y system a dewiswch yr ateb priodol unrhyw bryd.
Diweddaru eich Cyfeiriad E-bost
Er mwyn diweddaru eich cyfeiriad e-bost, cyfeiriwch at yr adran Manylion Personol yn y system er mwyn gwneud y newid.
Dalier Sylw
Rhaid bod eich Enw Defnyddiwr yn cynnwys o leiaf 6 nod a GALL cynnwys Nodau Arbennig (fel symbolau % neu £), ond dim bylchau. Gallwch ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost fel eich Enw Defnyddiwr.
Rhaid bod eich Cyfrinair yn cynnwys o leiaf 8 nod; rhaid iddo gynnwys o leiaf un rhif ac un briflythyren, un llythyren bach a un nod arbennig. Nodwch bod y cyfrinair yn SENSITIF i LYTHRENNAU MAWR / BACH.
Heb gyfeiriad e-bost dilys, NI FYDDWCH yn gallu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o'r Cynllun o dan fwy nag un swydd, byddwch chi ond yn gorfod cofrestru UNWAITH er mwyn cael golwg ar eich cofnodion pensiwn i gyd.