Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Mae Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân yn gynllun pensiwn galwedigaethol, yn dreth gymeradwyedig, ddiffiniedig. Mae trefniadau Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân 1992 (CPT 1992), Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (CPT 2007) a ers 1 Ebrill 2015, Chynllun Pensiwn newydd Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (CPT 2015) yn cynnig ystod o fudd-daliadau sy’n rhoi diogelwch ariannol yn ystod yr amser yn arwain at ymddeoliad a thu hwnt i hynny.

Ymgymerir â’r gwaith o weinyddu y Cynlluniau hyn ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (cyfeirir ato fel y Gwasanaeth Tân ac Achub - GTA) gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Y Cyngor sy’n gyfrifol am gynnal y wefan hon ac mae’n ymwneud â phob cam o’ch aelodaeth. Golyga hyn ein bod yn gweithio mewn cyswllt agos gyda’r ddau Wasanaeth Tân ac Achub i sicrhau bod gwybodaeth yn llifo’n gywir ac amserol wrth weinyddu eich cofnodion pensiwn(pensiynau). 

Dalier Sylw

Byddwch yn sylwi bod y wefan wedi’i rhannu rhwng CPT 1992, CPT 2007 a CPT2015, felly bydd angen i chi gyfeirio at yr adran briodol er mwyn cael gwybod mwy am eich cynllun.

Mae’r cynlluniau yn ddiogel iawn oherwydd fe drefnir y buddion yn unol â’r gyfraith a gaiff ei reoli gan y Senedd. Yn ogystal, nid oes cyswllt i’r Farchnad-agored, yn wahanol i unrhyw gynllun cyfraniadau diffiniedig.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gweinyddwr Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu a Diffoddwyr Tân, yn defnyddio eich data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, pwy rydym yn ei rhannu â, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Bensiwn Dyfed.

  • Datganiad Buddion Blynyddol (DBB) 2022