Cynllun Pensiwn Tân 1992
Mae’r adran hon yn berthnasol i’r aelodau actif hynny y rhoddwyd diogelwch iddynt yng Nghynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992 (y cyfeirir ato fel CPT 1992 drwy’r adran hon i gyd).
Mae hefyd yn berthnasol i’r Diffoddwyr Tân hynny sydd wedi gadael CPT 1992 gyda budd gohiriedig, neu i’r rheiny sydd eisoes yn cael pensiwn a ddyfarnwyd o dan GPT 1992.
Dalier Sylw
Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddiwygio Cynllun y Diffoddwyr Tân ar wefan y Llywodraeth.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gweinyddwr Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu a Diffoddwyr Tân, yn defnyddio eich data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, pwy rydym yn ei rhannu â, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Bensiwn Dyfed.