Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cynyddu eich Buddion

Os ydych yn aelod gweithredol o GDT 1992, ac nid oes modd i chi gronni 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy erbyn oed arferol pensiwn (55), gallwch ddewis prynu gwasanaeth ychwanegol.

Bydd y gwasanaeth ychwanegol yn cyfrif nid yn unig wrth asesu eich pensiwn chi, ond hefyd wrth asesu budd-daliadau i wraig/gŵr gweddw, partner sifil a phlant.

Ond NI chânt eu cyfrif wrth asesu hawl i fudd-daliadau e.e. ni allwch eu cyfrif i gael y 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy sydd ei angen i ymddeol yn 50 oed a chyn 55 oed, nac yn y gwasanaeth a ddefnyddir i asesu hawl i bensiwn salwch.

Rhaid i chi dalu cyfraniadau ychwanegol i brynu gwasanaeth ychwanegol. Bydd swm y cyfraniadau ychwanegol yn dibynnu ar eich oed ar eich pen-blwydd yn dilyn eich dewis i wneud y taliadau, a faint o 60au ychwanegol yr ydych yn dymuno eu prynu.

Rhaid gwneud y dewis i brynu cyfraniadau ychwanegol 2 flynedd o leiaf cyn oed arferol pensiwn (55), a rhaid i’r unigolyn fod heb gyrraedd 46 oed pan ddaeth yn ddiffoddwr tân ddiwethaf a heb fod dan rybudd i ymddeol ar sail iechyd neu effeithlonrwydd.

Dalier Sylw

Mae Actiwari’r Llywodraeth yn darparu ffactorau a ddefnyddir gan y Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) i bennu’r gost.