Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cipolwg o'r Cynllun

Mae nodweddion allweddol CPT 1992 yn cynnwys:

  • Cynllun Cyflog Terfynol, sy’n golygu bod eich pensiwn yn cael ei gyfrifo fel cyfran o’ch cyflog pensiynadwy cyfartalog terfynol (yn ystod eich blwyddyn olaf o wasanaeth fel arfer).
  • Dibynna’r pensiwn a dderbyniwch ar eich gwasanaeth pensiynadwy ac ar gyfer y rhan fwyaf, mae hynny’n golygu'r gwasanaeth yr ydych wedi talu cyfraniadau pensiwn amdano, gydag addasiadau priodol ar gyfer gwasanaeth rhan-amser.
  • Yr oedran ymddeol arferol yw 55. Fodd bynnag gall diffoddwr tân ddewis i ymddeol cyn hynny a derbyn pensiwn ymddeol yn ddi-oed os yw’n 50 oed neu’n hŷn ac yn meddu ar 25 mlynedd o leiaf o wasanaeth.
  • Rhaid cael 30 mlynedd o wasanaeth i gael uchafswm y pensiwn.
  • Mae dewis i gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad di-dreth.
  • Cyflog pensiynadwy cyfartalog yw’r cyflog pensiynadwy uchaf yn ystod y tair blynedd cyn ymddeol.
  • Mae pob blwyddyn o wasanaeth pensiynadwy yn ystod yr 20 mlynedd gyntaf yn rhoi hawl i bensiwn o 1/60fed o’r cyflog terfynol ac mae pob blwyddyn yn ystod y 10 mlynedd olaf yn rhoi hawl i 2/60fed, hyd at derfyn o 40/60fed.
  • Fel arfer mae pensiynau a delir yn cael eu cynyddu i gyfrif am chwyddiant (er dim ond ar ôl cyrraedd 55 oed os nad yw’r swyddog wedi ymddeol am resymau meddygol neu’n bodloni amodau eraill).
  • Cyfandaliad grant marwolaeth sy’n ddwywaith y cyflog.
  • Pensiwn i wraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, fel arfer hanner y pensiwn y mae’r Swyddog â hawl iddo.
  • Gall blant dibynnol dan 23 oed fod yn gymwys i dderbyn pensiwn.
  • Mae pensiwn a chyfandaliad di-oed yn daladwy i unrhyw swyddog o unrhyw oed sy’n cael ymddeol ar sail salwch.
  • Mae cyfleuster i brynu mwy o bensiwn yn y cynllun (blynyddoedd ychwanegol) o fewn y terfyn cyffredinol o 30 mlynedd.