Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Absenoldeb o'r Gwaith

Yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth â thâl, absenoldeb tadolaeth â thâl ac absenoldeb mabwysiadu â thâl, byddwch yn talu cyfraniadau yn ôl graddfa’r cyflog a dderbyniwch. Fodd bynnag, os bydd cyfnod ychwanegol o absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu yn ddi-dâl, cewch y dewis o dalu cyfraniadau yn ôl y raddfa yr oeddech yn ei derbyn yn union cyn i’r tâl ddod i ben, fel y gallech gyfrif y cyfnod hwn fel gwasanaeth pensiynadwy.

Os ydych wedi cael cyfnod o absenoldeb di-dâl am resymau eraill, mae gennych y dewis o dalu cyfraniadau ar y cyflog y byddech wedi’i dderbyn heblaw am yr absenoldeb fel y gellir cyfrif y cyfnod fel gwasanaeth pensiynadwy.

Dalier Sylw

Fodd bynnag, os ydych wedi cael cyfnod o absenoldeb di-dâl am resymau eraill, byddai’n rhaid i chi dalu cyfraniadau’r gweithiwr a chyfraniadau’r cyflogwr. (Mae gan Y Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) ddisgresiwn i dalu cyfraniad y cyflogwr ar eich rhan).