Cynllun Pensiwn Heddlu

Cynllun Pensiwn Heddlu

Mae Cynllun Pensiwn yr Heddlu yn gynllun pensiwn galwedigaethol, yn dreth gymeradwyedig, ddiffiniedig. Mae trefniadau Cynllun Pensiwn yr Heddlu 1987 (Cynllun 1987), Cynllun Pensiwn yr Heddlu 2006 (Cynllun 2006) a ers 1 Ebrill 2015, Chynllun Pensiwn newydd yr Heddlu 2015 (Cynllun 2015) yn cynnig ystod o fudd-daliadau sy’n rhoi diogelwch ariannol yn ystod yr amser yn arwain at ymddeoliad a thu hwnt i hynny.

Ymgymerir â’r gwaith o weinyddu y Cynlluniau hyn ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys (yr Awdurdod Heddlu) gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Y Cyngor sy’n gyfrifol am gynnal y wefan hon ac mae’n ymwneud â phob cam o’ch aelodaeth. Golyga hyn ein bod yn gweithio mewn cyswllt agos gyda’r Awdurdod Heddlu i sicrhau bod gwybodaeth yn llifo’n gywir ac amserol wrth weinyddu eich cofnodion pensiwn(pensiynau). Fodd bynnag, wedi i chi ymddeol, yr Awdurdod Heddlu bydd yn gyfrifol am weinyddu taliad eich buddion pensiwn.

  • Datganiad Buddion Blynyddol (DBB) 2022

Dalier Sylw

Byddwch yn sylwi bod y wefan wedi’i rhannu rhwng Cynllun 1987, Cynllun 2006 a Chynllun 2015, felly bydd angen i chi gyfeirio at yr adran briodol er mwyn cael gwybod mwy am eich cynllun.

Mae’r cynlluniau yn ddiogel iawn oherwydd fe drefnir y buddion yn unol â’r gyfraith a gaiff ei reoli gan y Senedd. Yn ogystal, nid oes cyswllt i’r Farchnad-agored, yn wahanol i unrhyw gynllun cyfraniadau diffiniedig.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gweinyddwr Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu a Diffoddwyr Tân, yn defnyddio eich data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, pwy rydym yn ei rhannu â, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Bensiwn Dyfed.

Yn anffodus, NID yw'r Canllawiau Cynllun ar gael yn y Gymraeg gan ei fod wedi gyhoeddi gan sefydliad trydydd parti.