Cynllun Pensiwn Heddlu 2006
Mae’r adran hon yn berthnasol i’r Aelodau Gweithredol hynny y rhoddwyd diogeliad trosiannol iddynt yng Nghynllun Pensiwn yr Heddlu 2006 (y cyfeirir ato fel Cynllun 2006 drwy’r adran hon i gyd).
Mae hefyd yn berthnasol i’r Swyddogion hynny sydd wedi gadael Cynllun 2006 gyda budd gohiriedig, neu i’r rheiny sydd eisoes yn cael pensiwn a ddyfarnwyd o dan Gynllun 2006.
Dalier Sylw
Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddiwygio Cynllun Pensiwn yr Heddlu ar adran y Swyddfa Gartref ar wefan gov.uk.
Oherwydd newid yn rheoliadau'r Cynllun 2006 ar 8ed Hydref 2018, nid yw'n ofynnol i chi enwebu partner sy'n cyd-fyw bellach i gael pensiwn goroeswr ar ôl eich marwolaeth. Fodd bynnag, gall Heddlu Dyfed-Powys ofyn i chi gwblhau'r ffurflen enwebu partner sy'n cyd-fyw priodol er mwyn cadw eu cofnodion yn gyfoes.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gweinyddwr Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu a Diffoddwyr Tân, yn defnyddio eich data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, pwy rydym yn ei rhannu â, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Bensiwn Dyfed.