Gadael y Cynllun
Gallwch ddewis gadael Cynllun 2006 ar unrhyw adeg. Os ydych yn dewis gadael yn ystod tair mis gyntaf eich gwasanaeth gyda’r heddlu, bydd eich penderfyniad yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad y daethoch yn Swyddog rheolaidd o’r heddlu. Os penderfynwch adael Cynllun 2006 ar unrhyw adeg arall yn y dyfodol, bydd eich penderfyniad yn dod i rym o ddyddiad eich diwrnod cyflog nesaf ar ôl derbyn eich rhybudd i adael y cynllun.
Bydd nifer o ganlyniadau i adael Cynllun 2006, sy'n cynnwys:
- os ydych yn cronni 2 flynedd neu ragor o wasanaeth cymwys yn Cynllun 2006 ac yna’n dewis gadael, ni fydd gennych ond hawl i bensiwn gohiriedig yn unig, a fydd fel arfer yn daladwy ar gyrraedd 65 oed;
- os ydych yn marw mewn swydd ac wedi dewis gadael Cynllun 2006, NI fydd cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy;
- fel rhywun nad yw’n aelod gweithredol o Cynllun 2006, NI fyddwch yn gymwys ar gyfer pensiwn salwch os byddwch yn ymddeol ar sail feddygol, er y byddwch yn gymwys i dderbyn eich pensiwn gohiriedig yn gynnar os ydych yn cael eich asesu yn barhaol anabl ar gyfer pob gwaith rheolaidd.
Dalier Sylw
Os ydych yn ystyried gadael Cynllun 2006, argymhellir yn gryf eich bod yn cael Cyngor Ariannol Annibynnol cyn gwneud eich penderfyniad.