Cynllun Pensiwn Heddlu

Cipolwg o'r Cynllun

Nodweddion allweddol Cynllun 2006:

  • Cynllun Cyflog Terfynol, sy’n golygu bod eich pensiwn yn cael ei gyfrif fel cyfran o’ch ‘cyflog pensiynadwy terfynol’. Eich enillion yn ystod eich blwyddyn olaf o wasanaeth yn aelod o’r Cynllun yw hynny fel arfer.
  • Dibynna’r pensiwn a dderbyniwch ar eich gwasanaeth pensiynadwy, ac ar gyfer y rhan fwyaf o Swyddogion mae hynny’n golygu hyd eich gwasanaeth yn llu’r heddlu yr ydych wedi talu cyfraniadau pensiwn amdano, gydag addasiadau priodol ar gyfer gwasanaeth rhan-amser.
  • Y dyddiad cynharaf y gellir talu pensiwn yw ar gyrraedd 55 oed a rhaid cael 35 mlynedd o wasanaeth i gael uchafswm y pensiwn.
  • Mae pob blwyddyn o wasanaeth pensiynadwy yn rhoi hawl i 1/70fed o’r cyflog terfynol, hyd at uchafswm o 35/70fed.
  • Mae cyfandaliad di-dreth awtomatig yn daladwy, sy’n 4 gwaith y pensiwn blynyddol, ond mae modd cyfnewid rhan neu’r cyfan o’r cyfandaliad am fwy o bensiwn blynyddol.
  • Mae pensiynau a delir yn cael eu cynyddu i gyfrif am chwyddiant.
  • Mae cyfandaliad grant marwolaeth sy’n 3 gwaith y cyflog yn daladwy ac mae gennych rywfaint o ryddid o ran enwebu’r sawl sydd i’w dderbyn.
  • Mae pensiwn i briod neu bartner sifil yn daladwy am oes, fel arfer mae’r pensiwn hwn yn hanner y pensiwn y mae’r swyddog â hawl iddo.
  • Gall partner nad yw’n briod nac yn bartner sifil fod yn gymwys i dderbyn pensiwn sy’n daladwy am oes yn amodol ar fodloni rhai meini prawf.
  • Gall plant dibynnol dan 23 oed fod yn gymwys i dderbyn pensiwn.
  • Mae cyfandaliad a phensiwn di-oed yn daladwy i unrhyw Swyddog o unrhyw oed sy’n cael ymddeol ar sail salwch.
  • Mae cyfleuster i brynu mwy o bensiwn yn y Cynllun (‘blynyddoedd ychwanegol’) o fewn y terfyn cyffredinol o 35 mlynedd.
  • Mae gan bob swyddog y cyfle i ddewis peidio ag ymuno â’r Cynllun neu ei adael.
  • Os ydych yn cronni hawliau pensiwn yn y Cynllun ond yn gadael gwasanaeth yr heddlu (neu’n gadael y Cynllun) cyn ymddeol, bydd gennych hawl i ‘bensiwn gohiriedig’ a delir ar gyrraedd 65 oed.